Mae Cymdeithas yr Iaith yn deall fod Thomas Cook wedi diddymu'n ymarferol eu "Welsh Not" ymhlith eu staff. Os yw hyn yn wir, mae'n dod a nhw o'r 19eg ganrif i'r 20ed ganrif. Maent yn dal i gyhoeddi popeth a chyflawni eu gwaith gweinyddol oll yn Saesneg. Mae angen Deddf Iaith gref yn awr i'w tynnu o'r 20ed Ganrif i'r 21ain Ganrif.