Fe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.
Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg:"Mae'r Gymdeithas yn cefnogi bod gweithgor wedi'i sefydlu i lunio polisi newydd ar gyfer ysgolion cynradd y sir, ond nid lle gweithgor yn swyddfeydd y Cyngor yw enwi pa ysgolion y dylid eu cau. Byddwn yn ceisio cael cyfarfod y Cyngor llawn ar 19eg Mehefin i newid y penderfyniad hwn."Paentio slogan yn nhref CaernarfonHeddiw (Dydd Iau 5ed o Fehefin) yn ystod oriau mân y bore, aeth aelodau o Ranbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg allan i baentio slogan 'Cadwn Ein Hysgolion' ar wal yng nghanol tref Caernarfon.Roedd y weithred yn anfon neges ddiffuant i Bwyllgor Craffu Addysg Gwynedd, sy'n cyfarfod am 2 y prynhawn, ac yn adlewyrchu gwrthwynebiad eang trigolion Gwynedd i gynllun ad-drefnu addysg y Cyngor.Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol 2008 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe gyhoeddwyd bod angen i aelodau a chefnogwyr y mudiad fynd allan i baentio sloganau gwleidyddol ar hyd a lled Cymru.Yn ôl Dewi Snelson, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn:"Braf iawn ydi gweld aelodau ifanc y Rhanbarth yn dangos arweiniad, mi ddylai holl aelodau'r Gymdeithas ar draws y Gymru sydd dan ormes fynd allan a phaentio sloganau."Ychwanegodd Ffred Ffransis, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Galwn ar y Pwyllgor Craffu i ddiddymu'r cynllun ad-drefnu ysgolion yn hytrach na ei ddiwygio. Rhaid ei rhoi o'r neilltu er mwyn ail sefydlu ymddiriedaeth a thrafod ffordd ymlaen i ysgolion pentrefol Gwynedd."