Byddwn ni'n mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion yn paratoi i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref) wrth drafod cynnig sy’n canmol Cyngor Gwynedd am ymgynghori ar godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi i 300%.
Fodd bynnag, mae’r cynnig hefyd yn mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion wedi defnyddio eu pwerau llawn presennol i godi’r dreth i 100%.
Ar hyn o bryd, dim ond codi 25% yn fwy o dreth cyngor mae Cyngor Ceredigion ar ail gartrefi, sy’n llai na’r 100% a ganiateir gan y gyfraith yng Nghymru ers 2015. O 2023, bydd hawl gyda nhw ei godi i 300%. Er mwyn gwneud hynny bydd angen i’r cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn cael penderfyniad gan Gyfarfod Llawn y Cyngor erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd, Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n destun pryder mawr nad yw Cyngor Ceredigion wedi gwneud defnydd llawn o’r pwerau hyn sydd wedi bod gyda nhw ers 7 mlynedd. Ar adeg pan fod gwir angen mwy o arian i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’n amhosibl iddyn nhw gyfiawnhau peidio â gweithredu.
“Mae Cyngor Gwynedd yn amlwg ymhell ar y blaen, ac maen nhw’n buddsoddi mwy mewn tai i bobl leol o ganlyniad."
Dangosodd ymchwil Cymdeithas yr Iaith yn 2019 fod Cyngor Gwynedd wedi codi £2.2 miliwn ychwanegol mewn blwyddyn yn unig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus trwy godi treth uwch ar ail gartrefi.
Ychwanegodd Jeff Smith:
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng tai - ac mae cynyddu’r dreth cyngor uwch i’r lefel uchaf posibl yn un o becyn o fesurau mae angen i Geredigion weithredu cyn gynted ag y gallan nhw.
“Ceredigion yw un o’r siroedd sy’n dioddef fwyaf oherwydd ail gartrefi a phrinder tai fforddiadwy. Yng Ngheredigion mae'r ganran uchaf o’r stoc tai yn ail gartrefi ac mae prisiau tai tua 10 gwaith y cyflog lleol cyfartalog, felly mae angen i Geredigion weithredu ar frys a defnyddio’r holl rymoedd sydd ganddynt.”
Rydyn ni wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed gan nad oes arweiniad wedi ei roi i Awdurdodau Lleol ar weithredu'r mesurau newydd, na chyhoeddiad am gyllid ar gyfer y gwaith.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod y cynnig yn ei Chyfarfod Cyffredinol, fydd yn dechrau am 11am ar ddydd Sadwrn 8 Hydref yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.
Mae croeso i aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol.