'Troi'r cloc yn ôl' mewn gwrthdystiad yn erbyn Bil y Gymraeg

"Deddf Iaith wannach? Dim diolch" medd ymgyrchwyr 

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi addurno stondin Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda chloc mawr mewn gwrthdystiad yn erbyn cynlluniau maen nhw'n dweud fyddai'n gwanhau deddfwriaeth iaith 

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe fyddai cynlluniau Llafur Cymru i ddiwygio Mesur Iaith 2011 yn 'troi'r cloc yn ôl i'r nawdegau' i system a grëwyd gan y Ceidwadwyr cyn datganoli. Mewn papur gwyn a gyhoeddwyd y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu Comisiynydd y Gymraeg, cyfyngu ar allu pobl i gwyno a gwanhau pwerau i sicrhau bod cyrff yn cadw at eu dyletswyddau iaith – gan arwain at fframwaith tebyg iawn i Ddeddf Iaith 1993. 

Gosododd yr ymgyrchwyr faneri a sticeri gyda'r sloganau "Deddf Iaith Wannach – dim diolch!" a "Dim troi'r cloc yn ôl" ar stondin y Llywodraeth, wrth i gerddoriaeth o'r nawdegau chwarae yn y cefndir 

Wrth siarad yn y gwrthdystiad, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Dydyn ni ddim yn deall pam fod y Gweinidog Eluned Morgan am ddilyn agenda adain dde o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus. Mae Llafur am droi'r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan y Torïaid drwy atgyfodi cwango tebyg i Fwrdd yr Iaith a gwanhau ein hawliau i gwyno a chael cyfiawnder. Dyw pobl Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach, maen nhw am symud ymlaen, nid camu'n ôl i hen ddeddfwriaeth wnaeth fethu 

"I lawer ohonon ni, wedi'r pwyslais cadarnhaol ar gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fe wnaeth y papur gwyn godi sgwarnogod anffodus sydd mewn peryg o chwalu'r cyfeiriad clir a chadarn yna. Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."  

Ychwanegodd: 

"Does dim mandad gan y Llywodraeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. Dim ond 15% o'r rhai a ymatebodd i'w hymgynghoriad oedd yn cefnogi'r cynnig annoeth yma, a doedd e ddim ym maniffesto Llafur chwaith. Pwy fyddai'n meddwl bod Llafur yn mynd i glodfori hen system y Torïaid o'r nawdegau? Pam fod y Llywodraeth am gadw Comisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau'r Dyfodol, ond am ddiddymu'r unig eiriolwr uniongyrchol dros y Gymraeg? Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr. " 

Mae disgwyl i'r Gweinidog Eluned Morgan wneud cyhoeddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd wythnos nesaf am ei chynlluniau.