Mae nifer o undebau llafur wedi cyhoeddi y byddant yn noddi gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y toriadau ar nos Iau'r Eisteddfod yn Wrecsam.Fe fydd undebau megis yr NUJ, BECTU, PCS, Undeb y Cerddorion, Undeb yr Ysgrifenwyr, Unsain Cymru ac RMT yn rhan o'r gweithgaredd ac yn annog eu haelodau i ddod i'r noson yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yn Wrecsam.Fe fydd Mr Huw, Twmffat a Llwybr Llaethog yn diddanu'r dorf yn y digwyddiad ar Nos Iau 4ydd Awst, yn y gobaith o yrru neges clir bod pobl yn barod i sefyll gyda'u gilydd yn erbyn y toriadau. Mae bygythiad i swyddi ymhob rhan o Gymru gan gynnwys yn S4C, felly cynhelir rali ar yr un dydd, ar faes yr Eisteddfod yn erbyn y toriadau i'r sianel deledu Gymraeg.Mae tocynnau'r noson ar werth am £7 yr un ar-lein o cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.Croesawodd Ieuan Roberts, aelod o bwyllgor lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y gefnogaeth draws-fudiadol:"Ers y cychwyn bron, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi brwydrau gweithwyr am swyddi a hawliau, o weithwyr Shotton yn y 70au, y glowyr a chwarelwyr 'Stiniog yn yr 80 i weithwyr Ferodo. Eleni unwaith eto mae'r Gymdeithas ac undebau llafur yn sefyll gyda'u gilydd yn erbyn bygythiad creulon y llywodraeth Tori-Rhydd i ddinistro ein cymunedau a gyrru ein pobl ifainc i ffwrdd i chwilio am waith."Wrth annog aelodau i fynd i'r gigs, meddai Meic Birtwistle ar ran Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ):"Mae'r toriadau yn mynd i effeithio ar bob agwedd o fywyd Cymraeg. Mae'n gwbl addas felly bod ni'n ymladd nôl gan ddefnyddio pob dull posib. Diolch i'r Gymdeithas am drefnu'r gig yma yn erbyn y toriadau."Ychwanegodd Merfyn Tomos aelod lleol o UNSAIN Cymru:"Mae'n hanfodol bod cymaint â phosib o bobl a sefydliadau'n cydweithio i wrthsefyll toriadau ariannol Llywodraeth San Steffan. Diben digwyddiadau fel hyn yw hybu hynny. Mae'n amlwg bod toriadau erchyll y Llywodraeth yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys parhad yr iaith Gymraeg. Trwy gydweithio byddwn cymaint cryfach."GIG GWRTHWYNEBU'R TORI-ADAUMR HUW, TWMFFAT, LLWYBR LLAETHOG, CRASH.DISCO! DAU CEFN, LLYR PSI8pm-2.30am, Nos Iau, 4 Awst - £7, Clwb Gorsaf Ganolog, WrecsamRali: Mynnwn S4C Newydd - dim mwy o'r hen gelwydd!Siaradwyr: Jill Evans ASE, Sian Howys, Ceri Cunnington a mwy!2pm, Dydd Iau, 4 Awst - Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Maes Eisteddfod Wrecsam