Uwch Siryf Dyfed i agor cyfarfod i drafod y Gymraeg

Am y tro cyntaf erioed bydd cyfarfod gan Gymdeithas yr Iaith yn cael ei agor gan gynrychiolydd brenhinol!
 
Bydd y ddarlledwraig, Elinor Jones, sydd yn Uwch Siryf Dyfed yn agor cyfarfod agored Tynged yr Iaith yn Sir Gâr yn swyddogol. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin am 10.30, ddydd Sadwrn yr 17eg o Ionawr.
 
Cafwyd parti mawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin llynedd i ddathlu bod y Cyngor Sir wedi derbyn yn unfrydol strategaeth iaith newydd, ond penderfynwyd cynnal y cyfarfod hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd er mwyn sicrhau fod y cyngor sir yn cadw at ei air. Bydd swyddogion y cyngor a chynrychiolwyr etholedig (Cyng. Cefin Campbell o Blaid Cymru a Calum Higgins o'r Blaid Lafur) yn dod i gyflwyno tystiolaeth, bydd cyfle i bawb holi cwestiynau mewn sesiwn hawl i holi ac wedyn byddwn ni'n penderfynu y ffordd ymlaen.
 
Dywedodd Sioned Elin o ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
“All neb amau teyrngarwch Elinor Jones i ddyfodol y Gymraeg, ac rydyn ni'n falch iawn ei bod yn gallu agor y cyfarfod ac yn pwysleisio fod ein hymgyrch yn un sy'n cynnwys pawb gan fod y Gymraeg yn etifeddiaeth i ni i gyd.”
 

Mae Cymdeithas yr iaith am gyhoeddi rhestr o 'farcudiaid' a fydd yn cadw llygad ar Gyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau eu bod yn cadw at eu Strategaeth Iaith - drwy edrych ar gofnodion cyfarfodydd, i fynd i gyfarfodydd ac ati. Mae rhai wedi rhoi eu henw yn barod, i ymuno yn y gwaith neu i holi mwy cysyllta gyda ni - bethan@cymdeithas.org / 01970 624501