Y Brifddinas yn Cynnig Gwers i Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGWrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Cyngor Caerdydd yn mynd ati i gynnal ymgyngoriad cyhoeddus ar y strategaeth lawn dros y tri mis nesaf cyn bwrw ati gyda chynlluniau unigol. Mae hyn yn gwbl groes i’r sefyllfa yn Sir Gâr ble mae swyddogion addysg ac arweinwyr y Cyngor wedi mynnu dro ar ôl tro nad ydynt am drafod seiliau eu strategaeth Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg (yr MEP) gyda’r cyhoedd.Yn Sir Gâr, mynna’r Cyngor mai’r unig ymgynghori sydd ei angen yw’r drefn y mae’n rhaid ei dilyn yn gyfreithiol wrth ystyried cynigion ar gyfer cau ysgolion unigol.Sylwodd Ffred Ffransis (Llefarydd y Gymdeithas ar Addysg):"Rydyn ni’n croesawu bwriad Cyngor Caerdydd i ymgynghori gyda’r cyhoedd ynglŷn â’u strategaeth lawn a bydd y Gymdeithas yn sicr o gyfrannu at yr ymgyngoriad. Mae hyn yn gydnabyddiaeth bod yr egwyddorion a’r cyd-destun a osodir yn y strategaeth hon yn mynd i selio tynged nifer o ysgolion yn y ddinas i bob pwrpas. Dyma’n union yr ydyn ni wedi bod yn galw ar Gyngor Sir Gâr i’w wneud. Ond mae swyddogion Sir Gâr wedi bod yn gwbl benderfynol o wadu’r cyfle i bobl y Sir gael y drafodaeth hollbwysig honno gyda’r Cyngor.""Does bosib bellach bod Jane Davidson (y Gweinidog Addysg yn y Cynulliad Cenedlaethol) yn gallu parhau i esgusodi Cyngor Sir Gâr rhag cynnal ymgynghoriad eang ar egwyddorion yr MEP gyda phobl y sir. Galwn arni i fynnu bod swyddogion addysg Sir Gâr yn dysgu gwers gan eu cymheiriaid yn y brifddinas ac i ddatgan na fydd yn derbyn bod ymgynghori ar gynlluniau i gau ysgolion unigol yn Sir Gâr yn ddilys oni wneir hynny."