Y Ceidwadwyr yn “Camddeall natur S4C”?

Mewn llythyr at John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon, ynglŷn â thoriadau posibl i S4C mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y Llywodraeth yn 'anwybyddu' y Gymraeg ac yn 'camddeall' natur S4C.

Daw y llythyr yn arwain at gyhoeddi Cyllideb y Llywodraeth, a fydd yn cynnwys toriadau posibl i S4C a'r BBC ac wedi i John Whittingdale awgrymu y byddai toriadau i S4C yn 'rhesymol' – rhywbeth mae ymgyrchwyr iaith a mudiadau yn y diwydiant darlledu wedi ei feirniadu.

Yn y llythyr at yr Ysgrifennydd Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon mae Aled Powell, Cadeirydd grŵp Dyfodol Digigol y Gymdeithas yn rhesymu:
“Mae’r sianel wedi dioddef cwtogiadau o oddeutu 40% i’w chyllideb eisoes, gyda’r Llywodraeth yn arbed 93% o’r hyn oedd yn arfer ei gwario - ymhell tu hwnt i’r hyn rydych yn ei ystyried gyda’r BBC. Mae'r gymhariaeth felly’n un annheg a thwyllodrus.”

Mae'r llythyr hefyd yn beirniadu'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi mynd ati i drafod toriadau posibl a dyfodol ariannu S4C a'r BBC:
“Rydym yn condemnio’n llwyr y broses rydych wedi ei defnyddio i ddod i’r cytundeb hwn, heb ymgynghori ag S4C, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru na phobl Cymru’n fwy cyffredinol.
Mae’n cadarnhau unwaith eto nad yw’r Gymraeg o unrhyw bwys o gwbl i’ch Llywodraeth. Yn wir, rydych yn trin S4C ac felly'r Gymraeg a phobl Cymru gyda dirmyg. Nid mater o danseilio yw hwn, ond mater o anwybyddu: mae’n debyg bod y Gymraeg yn hollol amherthnasol i'ch Llywodraeth.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am fformiwla ariannu statudol ar gyfer S4C, sefydlu ardoll ar gwmnïau mawrion er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus, creu darlledwr Cymraeg aml-blatfform newydd a datganoli grym a chyllid dros ddarlledu i Gymru.