Y Ffyrc ar Daith Tafod

Taith TafodMae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn i allu cyhoeddi mae'r Ffyrc fydd y prif fand i berfformio ar y Daith Tafod cyntaf. Mae'n argoeli'n dipyn o sioe hefyd gan y bydd Kentucky AFC ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2006, Amlder, yn cefnogi.

Bydd y daith gyntaf yn ymweld â phob pegwn o Gymru gyda nosweithiau yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth, a Bangor. Bydd y daith yn digwydd yn ystod pythefnos olaf Tachwedd, gyda un noson hefyd yn Rhagfyr.Dyma'r amserlen llawn:Nos Iau 16 Tachwedd – Waterside, CaerfyrddinNos Wener 24 Tachwedd – Clwb Pêl-droed, AberystwythNos Sadwrn 25 Tachwedd – Clwb y Rheilffordd, BangorNos Iau 7 Rhagfyr – Clwb Ifor Bach, CaerdyddMae'r Swyddog Adloniant, Owain Schiavone yn falch iawn i allu hyrwyddo prosiect diweddaraf Mark Roberts a Paul Jones, gynt o'r Cyrff a Catatonia. Dywedodd:"fel boi o Lanrwst ges i fy magu gyda cherddoriaeth Y Cyrff yn y cefndir ac o'n i'n ddigon lwcus i helpu trefnu taith Cymru, Lloegr a Llanrwst llynedd. Mae albwm newydd Y Ffyrc yn wych a dwi'n falch iawn i allu helpu hyrwyddo'r prosiect cyffrous yma."Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arloesi ym myd hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ers degawdau. Maent wedi trefnu gigs yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers y 1970au, yn ogystal â gigs ledled Cymru yn ystod gweddill y flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diweddar maent hefyd wedi sefydlu nosweithiau misol llwyddiannus yng Nghaerdydd gydag Abri ac Aberystwyth gyda Naws.Erbyn hyn mae’r tîm adloniant wedi adnabod bwlch yn y sîn Gymraeg sydd angen ei lenwi, fel yr eglura’r Swyddog Adloniant, Owain Schiavone:"Mae llawer o gigs yn cael eu cynnal y dyddiau yma, sy’n wych wrth gwrs, ond does dim llawer o strwythur iddynt. Y syniad gyda’r daith yw ei bod yn uchafbwynt yn y calendr gigs ac yn rhywbeth i fandiau anelu ati ac i’r gynulleidfa edrych ymlaen ati."Credant y bydd y daith yn fuddiol i fandiau a labeli. Medd Owain:"Mae angen datblygu headiners go iawn ar hyn o bryd a dwi’n meddwl y bydd teithiau fel hyn yn codi statws artistiaid yn genedlaethol. Gobeithio y bydd hefyd yn cymryd y baich o drefnu gigs i hyrwyddo CD’s oddi-ar y labeli, gan nad dyna yw eu rôl mewn gwirionedd. Rydym yn gobeithio gweithio’n agos gyda labeli a defnyddio bandiau sy’n rhyddhau deunydd newydd."