Ymgyrchwyr yn galw ar Leighton Andrews i weithredu

“Argyfwng? Oes argyfwng?” oedd disgrifiad ymgyrchwyr iaith o araith Leighton Andrews AC mewn cynhadledd yn trafod canlyniadau’r Cyfrifiad heddiw.

Wrth i Leighton Andrews, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, gyrraedd cynhadledd yn Rhydaman, fe wnaeth ymgyrchwyr iaith gymharu ei agwedd â Mr Mainwaring o'r gyfres deledu 'Dad's Army'. Roedd ymgyrchwyr yn dal posteri a baneri yn datgan: "Peidiwch a Phanico dros y Gymraeg - medd leighton Andrews". Tra'r oedd Leighton Andrews yn areithio, fe feddianodd 3 o swyddogion y Gymdeithas ei gar, a'i gwestiynu ar ôl iddo ddychwelyd pam y bu iddo wrthod safonau Comisynydd y Gymraeg.

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei 11eg adolygiad i mewn i sefyllfa’r Gymraeg ac wedi i'r Gweinidog gyhoeddi nad yw yn derbyn safonau gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Yn siarad ar ôl y brotest, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae ymddygiad y Gweinidog yn fy atgoffa o Mr Mainwaring yn ‘Dads Army’ yn hytrach na rhywun sydd yn cymryd penderfyniadau call. Dros y misoedd diwethaf mae miloedd o bobl wedi dod i raliau, cyfarfodydd a digwyddiadau ar draws Cymru i alw ar y Llywodraeth i gydnabod fod argyfwng a gweithredu ar frys ar sail hynny. Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiadau niferus ar sefyllfa’r Gymraeg a sefydlu comisiynau di-ben-draw. Dyna’n union ddigwyddodd ar ol canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf, a ddaeth bron dim byd o’r holl adolygiadau bryd hynny. Yr hyn sydd angen gan y Gweinidog yw llai o ddweud a rhagor o wneud.

“Un o’r prif gyfleuon oedd ganddo i wneud gwir wahaniaeth, oedd trwy gytuno i safonau Comisynydd y Gymraeg, a fe’u gwrthodd. Mae e wedi dewis ochri gyda sefydliadau a chwmniau mawrion yn hytrach na blaenoriaethu’r Gymraeg.”