Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i symud ymlaen i gau Ysgol Gymunedol Bodffordd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i ymyrryd er mwyn achub hygrededd ei chôd newydd a gyhoeddwyd gyda'r bwriad o roi gobaith newydd i ysgolion gwledig.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Os gellir cau ysgol wledig Gymraeg llawn yn groes i ddymuniadau'r gymuned leol a pheryglu dyfodol yr unig ganolfan gymunedol yn y broses, a hynny heb ddilyn gofynion yr hen gôd trefniadaeth ysgolion, heb sôn am y newydd, yna does fawr dim gobaith i unrhyw ysgolion gwledig yng Nghymru. Byddwn yn colli rhagor o gymunedau gwledig Cymraeg o hyd."
Ychwanegodd:
"Yn yr achos hwn, anwybyddodd Cyngor Môn ofynion yr hen gôd trefniadaeth ysgolion trwy beidio â gwerthuso modelau eraill fel ffederasiwn o 5 ysgol yr ardal gyda'r ysgol uwchradd - cynllun a fyddai wedi arbed arian a chodi safonau addysg. Anwybyddodd hefyd y gofyniad i ystyried yr effaith ar y gymuned leol gydag addewid niwlog i "gynnal trafodaeth" am ddyfodol y ganolfan gymunedol sydd yn rhan o adeilad yr ysgol. Os nad yw Awdurdodau Lleol wedi cadw at ofynion yr hen gôd, beth yw'r pwynt i Kirsty Williams gyflwyno côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig? Beth sydd i'w hatal rhag anwybyddu'r côd newydd hefyd? Rhaid i'r Ysgrifennydd Addysg ymyrryd yn awr er mwyn achub hygrededd ei strategaeth ar gyfer ysgolion gwledig"