Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir Powys i ganiatáu i Ysgol Bro Hyddgen ddechrau addysgu drwy'r Gymraeg yn unig.
Dywedodd Osian Rhys o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae hyn yn newyddion calonogol iawn, ac yn rhoi gobaith i gymaint o bobl a chymunedau eraill. Diolch o galon i'r llywodraethwyr ysgol, ymgyrchwyr a gwleidyddion sydd wedi cefnogi'r newid cadarnhaol iawn hwn. Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw'r unig ffordd o sicrhau bod plant yn gallu cyfathrebu yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith fel hyn yn un o'r prif ffyrdd y byddwn ni fel cymdeithas yn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a mwy. Dyna pam rydyn ni'n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fydd yn annog a hwyluso troi ysgolion ar draws y wlad yn rhai cyfrwng Cymraeg, gyda phrosesau newydd llawer haws a thargedau statudol i bob cyngor sir."