Ysgol Plasdŵr: Protestwyr yn meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd

 

Mae grŵp o wrthdystwyr wedi meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd heddiw er mwyn pwyso am ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y datblygiad ym Mhlasdwr yn y brifddinas.

Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg. Derbyniodd y Cyngor ddeiseb gydag 876 llofnod arni hi’n galw am ysgol benodedig Gymraeg, gyda dim ond 15 o’r 180 o ymatebion i’w hymgynghoriad yn ffafrio agor ffrwd Saesneg ar y safle. 

Mae datblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas yn golygu adeiladu hyd at saith mil o dai dros y saith mlynedd nesaf. Yn yr ardaloedd hyn - Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch - y mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg. 

Meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:

“O dan gynlluniau’r cyngor, mae hanner y disgyblion yn mynd i gael eu trin yn eilradd, a ddim yn mynd i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dim ond drwy ysgolion penodedig Cymraeg y daw disgyblion yn rhugl yn Gymraeg. Ac, mae gan y cyngor gyfle euraidd, gydag ysgol newydd sbon, i sefydlu un. Fel arall, drwy beidio defnyddio’r cyfalaf sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, byddai’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith. Dylai pob ysgol sy’n cael ei hagor o’r newydd fod yn un gyfrwng Gymraeg, dyna’r newid meddylfryd sydd ei hangen, yn enwedig mewn ardaloedd fel Caerdydd lle mae’r boblogaeth yn tyfu.    

“Rydyn ni’n galw ar Arweinydd y Cyngor i gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog. Wedi’r cwbl, dyna sydd ei hangen os yw’r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyrraedd.  Byddai ailymweld ag arbrawf methiedig addysg ddwyieithog sydd wedi ei brofi’n ffordd wael o drwytho disgyblion yn y Gymraeg yn gam annigonol i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y ddinas.”  

Mae disgwyl i gabinet y cyngor benderfynu ar gyfrwng iaith yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad Plasdŵr ddydd Iau yma (23ain Ionawr).