Ysgolion Gwynedd: Ymgyrchydd yn mynd heb ddwr

ffred-siarad.jpgBydd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, yn mynd heb ddwr na bwyd am 50 awr cyn cyfarfod tyngedfennol o Gyngor Gwynedd ar ddyfodol Ysgol y Parc fel arwydd fod perygl i fywyd y gymuned wledig Gymraeg a fydd tan drafodaeth.Brynhawn Iau nesaf (Mai 12ed) bydd Cyngor llawn Gwynedd yn trafod yn derfynol argymhelliad i gau Ysgol Y Parc, ger Y Bala er bod trigolion y pentref 91% Cymraeg hwn wedi anfon miloedd o eiriau - mewn ymateb i ddogfen ymgynghorol - yn datgan fod yr ysgol yn gwbl allweddol i barhad y gymuned.Mewn llythyr a ddanfonwyd rai dyddiau yn ol at bob cynghorydd, dywed Mr Ffransis nad oes unrhyw reswm addysgol dros gau'r ysgol, nag unrhyw arbedion ariannol ar raddfa a all gyfiawnhau chwalu cymuned Gymraeg. Dywed hefyd nad yw'r Cyngor wedi ystyried cynllun llawer mwy cyffrous i greu Ffederasiwn Penllyn a fyddai'n rhoi lle i Ysgol y Parc. Dywed wrth y cynghorwyr:"Fy nghred diffuant yw fod bywyd y gymuned Gymraeg fechan hon yn y Parc yn y fantol, ac y bydd colli'r ymdrech i gadw'r ysgol yn ergyd i fywyd lluaws o gymunedau Cymraeg bychain eraill. Symbol o fywyd yw dwr ac, er mwyn ceisio argraffu ar y Cyngor mor ddifrifol yw'r argyfwng i fywyd y gymuned hon, byddaf yn treulio heb ddwr na bwyd yng Nghaernarfon y 50 awr cyn dechrau'r cyfarfod."Mae Mr Ffransis yn mynd ymlaen i esbonio wrth y cynghorwyr mai ei gyfrifoldeb personol ef yw'r penderfyniad hwn, ar ol gweld y chwalfa cymdeithasol yn ei bentre ei hun yn dilyn cau'r ysgol, ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb ar gynghorwyr am y penderfyniad. Ychwanega:"Nid oes unrhyw hawl na disgwyliad gennyf y byddech yn newid penderfyniad oherwydd fy mod i'n dewis gweithredu mewn modd arbennig. Ur unig ddisgwyliad a gobaith sydd gennyf yw y gwnewch chi ddarllen y cyfan o'r ymatebion gyda meddwl a chalon agored cyn dod i'ch penderfyniad. Yn fy ffordd fy hun, rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i. Dyma'ch cyfrifoldeb chwithau."Gyda hyn mewn golwg, bydd Mr Ffransis yn mynd at swyddfa'r Cyngor am 11.30am Dydd Mawrth (10 ed o Fai, 50 awr cyn y cyfarfod) gyda 75 copi o'r dystiolaeth dros Ysgol Y Parc.Recordiad o Ffred Ffransis ar raglen Gwilym Owen (mp3) - 09/05/11Defnyddiwch y teclyn uchod i chwarae'r ffeil sain, neu de-gliciwch yma ac arbed y ffeil ar eich cyfrifiadur.Llythyr Ffred Ffransis at y Cynghorwyr yn llawnErthygl yn y Daily Post - 09/05/11Erthygl ar Golwg 360 - 09/05/11 Erthygl ar wefan Y Cymro - 06/05/11