Test Tabl

Cartref > Test Tabl

Ymrwymiad Aelodau’r Seithfed Senedd i’r Gymraeg

Gyda Senedd newydd sbon, a mwy o Aelodau nag erioed o’r blaen, mae cyfle i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, sydd wedi bod yn isel iawn ar hyd y blynyddoedd. Mynd yn erbyn y llif mewn môr o Saesneg fu hanes y rhai oedd yn defnyddio’r Gymraeg yn Seneddau’r gorffennol. Nawr yw’r amser i droi’r llanw o blaid y Gymraeg ar weinyddiaeth y Senedd.

Rydyn ni’n galw am ddod â Chomisiwn y Senedd, y Bwrdd Taliadau Seneddol a’r Aelodau eu hunain o dan ddyletswyddau safonau’r Gymraeg ar fyrder fel bod fframwaith cyfreithiol cadarn yn ei le.

Yn ogystal, rydyn ni'n disgwyl i bob Aelod unigol, a'r Aelodau fel corff, ddangos arweiniad i wireddu'r weledigaeth o wneud y Gymraeg yn briod iaith i'r Senedd. Mae angen i Aelodau’r Seithfed Senedd fachu ar y cyfle i feithrin arferion newydd o ran defnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr.

Penderfynwyd felly cysylltu gyda phob un o’r 96 Aelod o’r Senedd a’u gwahodd i ddatgan eu gallu ieithyddol personol ar hyn o bryd, a’u hymrwymiadau i ddefnyddio a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg fel cynrychiolwyr etholedig. Rydym yn bwriadu i’r arolwg fod yn gofnod byw, a’n galluogi i ddal Aelodau yn atebol yn ystod y tymor hwn.

Bu i ni ysgrifennu at yr holl Aelodau ar 22ain Mai, 4ydd Mehefin a 23ain Mehefin er mwyn rhoi pob cyfle i’r Aelodau ymateb gan nodi ein bwriad i gyhoeddi’r canlyniadau. 

Dyma’r holl ymatebion rydym wedi eu derbyn hyd yma:

A yw eich 6 Aelod o’r Senedd wedi ymateb? Os nad ydynt, cysylltwch gyda nhw fel etholwr i ofyn iddynt gwblhau’r ffurflen hon.

Awgrymwn i chi ddefnyddio’r testun canlynol:

Annwyl Aelod o’r Senedd,

Rwyf yn cysylltu fel etholwr i ofyn i chi ymateb i arolwg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn cofnodi eich hymrwymiad i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg fel un o’m cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd.

Fel etholwr, rwyf yn disgwyl i chi fel Aelod unigol, a’r Aelodau fel corff, ddangos arweiniad i wireddu'r weledigaeth o wneud y Gymraeg yn briod iaith i'r Senedd. Mae angen i Aelodau’r Seithfed Senedd fachu ar y cyfle i feithrin arferion newydd o ran defnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr.

Deallaf i’r Gymdeithas wneud sawl ymdrech i ohebu gyda chi yn eich gwahodd i ddatgan eich hymrwymiad dros gyfnod o fis rhwng Mai a Mehefin 2026 ond na chafwyd ymateb. Gofynnaf i chi yn awr felly i gofnodi’ch hymrwymiad yma ac ymateb i’m gohebiaeth atoch yn cadarnhau eich bod wedi gwneud: Ffurflen Ymrwymiadau Aelodau i'r Gymraeg.

Yn gywir,

Enw

Cyfeiriad (os dymunwch)

Byddwn yn derbyn yr ymatebion, ac yn diweddaru’r tabl uchod.

Mae rhestr o’ch Aelodau ar gael ar wefan y Senedd a gallwch ddod o hyd iddynt yn ôl cod post.