Dogfennau Eraill
Cartref > Cyhoeddiadau > Dogfennau Eraill
Maniffestos y Gymdeithas
Dyma chweched maniffesto Cymdeithas yr Iaith, y ddogfen rydym wedi’i chyhoeddi bob degawd i amlinellu ein gweledigaeth fel mudiad. Datblygwyd ef dros gyfnod o fisoedd mewn trafodaethau gyda’n haelodau, a daeth yn glir y byddai’n rhaid iddo ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’i gyswllt â’r Gymraeg.
Mae’r ddogfen hon felly’n amlinellu dadansoddiad y Gymdeithas o sefyllfa bresennol y Gymraeg a’n cymunedau, a’n hathroniaeth wleidyddol o
gymdeithasiaeth a sut mae hynny’n berthnasol i Gymru heddiw. Yna, mae’n cynnig syniadau ar gyfer sicrhau Cymru gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair, a sut mae grymuso ein cymunedau — un o brif egwyddorion cymdeithasiaeth — yn golygu cryfhau ein hiaith a diogelu ein hamgylchedd hefyd.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y maniffesto, a’n holl waith dros y blynyddoedd. Cymdeithas o bobl ydym ni ac rydym yn llwyr ddibynnol ar sgiliau, syniadau ac ymroddiad ein haelodau er mwyn cyflawni unrhyw beth.
Cawsom ein hysbrydoli wrth ddarllen maniffestos blaenorol y Gymdeithas a fuodd yn sail i weledigaeth radical dros y degawdau, a chymaint o weithredu sydd wedi cyflawni camau mawr ymlaen i’n hachos. Ein dymuniad fydd i’r darllenydd ddarganfod yn y tudalennau yma hefyd syniadau fydd yn sbarduno trafodaeth, gweithredu, ac o bosib, gobaith.
Mae heriau mawr o’n blaenau ond rydym wedi ymateb i heriau mawr o’r blaen. Ymatebwn unwaith eto felly gyda’r dychymyg a’r cydweithrediad sydd wedi bod yn nodweddiadol o’n mudiad a’n gwlad fach erioed; i greu, gweithredu a gwireddu gweledigaeth o Gymru arall, Cymru well.
Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg.
Llwythwch Maniffesto Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg i lawr
Hanner can mlynedd yn ôl, namyn blwyddyn, traddodwyd darlith a oedd i newid hanes yr iaith Gymraeg am byth. Darlith gan un dyn ydoedd, ond sbardunodd ei eiriau filoedd ar filoedd o bobl i wrthsefyll y bygythiad i'r iaith Gymraeg i fyw. Ie, trwy ddulliau chwyldro yn unig yr oedd llwyddo, a phenderfynodd ymgyrchwyr ifanc nad oeddent am ymostwng i'r drefn lygredig a oedd yn parhau i geisio cadw'r iaith Gymraeg yn ei lle.
Gweithredwyd yn gadarnhaol o blaid newid. ymrwymwyd i'r dull di-drais gan beidio ag ateb trais â'r trais a ddangosodd y drefn i'r Gymraeg, ond gan fodloni i aberthu er mwyn cael cyfiawnder i'r iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg.
Trwy'r gweithredu y bu Cymdeithas yr Iaith yn rhan ohono yn ystod yr hanner canrif ers traddodi Tynged yr Iaith, daeth ymwybyddiaeth a balchder newydd. Yn fwy na dim enillwyd hyder yn yr iaith Gymraeg, hyder o wybod nad iaith aelwyd ac iaith capel yn unig yw'r iaith Gymraeg, ond iaith a allai estyn ei hun i bob math o sefyllfaoedd fel unrhyw iaith arall. Roedd diwylliant y sin roc Gymraeg yn dangos sut roedd chwyldro'r iaith Gymraeg yn goresgyn rhagfarnau y rheiny oedd yn dweud nad oedd modd i'r Gymraeg ddod allan o'r aelwyd a'r capel.
Taniodd Tynged yr Iaith ar weledigaeth y cenedlaethau wedi hynny, a gwn iddynt weld nad oes angen bodloni ar y drefn anghyfiawn ond fod modd, gyda'n gilydd, i drawsnewid sefyllfa er mwyn gadael i'r iaith Gymraeg i fyw. Yn fwy na dim, bu newid meddylfryd ymysg pobl Cymru a magwyd balchder yn yr iaith a'i diwylliant. Daeth y slogan 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg' yn rhywbeth i'w wireddu ym mhob maes o fywyd.
Trwy ymgyrchu dyfal a gwneud safiad dros y Gymraeg bu nifer o enillion. Mae'r enillion a fu yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn byw ar ryw ffurf. Ar ddechrau'r cyfnod newydd hwn, y gwir gwestiwn yw 'Pa fath o ddyfodol sydd i'n hiaith? Rydym ymhell iawn o sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ai ar ffurf symbolaidd yn unig y bydd ein hiaith yn byw? Ai diwylliant i leiafrif yn unig? Iaith y dosbarth neu iaith un neu ddau mewn swyddfa fydd y Gymraeg, yn hytrach nag iaith sy'n rhan o adfywiad cymuned gyfan. Ar hyn o bryd, dyma dynged yr iaith Gymraeg ac fe fydd y darlun yn gwaethygu. Dyma'r argyfwng sy'n ein wynebu ni
nawr fel pobl sy'n caru'r Gymraeg. Rydym yn colli tir yn gyflym iawn.
Llwythwch Tynged yr Iaith 2: Gweledigaeth ar sut i sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy i lawr
Wrth gyhoeddi ei maniffesto newydd yn 2002 mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gosod gerbron bobl Cymru weledigaeth radical. Dyma ddatganiad cynhwysfawr o’r camau hynny y credwn y bydd angen eu cymryd os ydym o ddifrif am greu dyfodol llewyrchus i’n hiaith a’n
cymunedau.
Heb os, mae’r maniffesto yn wrthodiad pellach o gonsensws dylanwadol y nawdegau a fu’n honni bod yr iaith yn ddiogel a bod dim diben protestio mwyach. Datganwn yn glir fod y frwydr yn parhau, a’n gobaith yw y bydd cynnwys y ddogfen hon yn sail i gyfnod arall o ymgyrchu egnïol o blaid y Gymraeg.
Mae ein brwydr yn un sydd wedi symud ymlaen o’r hyn ydoedd nôl ym 1992. Bellach, rhaid ei dehongli o fewn cyd-destun byd-eang. Cred Cymdeithas yr Iaith fod tranc ein hiaith a’n cymunedau yn amlygiad lleol o ffenomenon rhyngwladol. Ar draws y byd gwelir grymoedd cyfalafol yn disodli neu’n tanseilio cymunedau brodorol, gan ddinistrio eu diwylliannau a’u hamgylchedd naturiol. Felly, dadl ganolog Cymdeithas yr Iaith yn y maniffesto hwn yw mai’r duedd bresennol o globaleiddio, sydd yn rhoi pwyslais ar ganoli grym, yw’r prif fygythiad
i ddyfodol ein hiaith a’n diwylliant. Dyma gred sydd wedi codi yn uniongyrchol o’n hymgyrchoedd. Dro ar ôl tro, wrthymgyrchu dros fesurau ym maes tai, cynllunio a statws, gwelsom gwmnïau a sefydliadau yn symud i ffwrdd oddi wrth y Gymraeg a’r cymunedau hynny sydd yn sail iddi.
Dyma yw realiti ein bywyd presennol. Rhaid i ni gydnabod hynny a rhaid mynd ati i bwysleisio’r ffaith i eraill. Mae’r grymoedd hyn ar waith yn awr ac felly nid oes unrhyw fudd mewn cuddio rhagddynt a chodi muriau o’n cwmpas. Yn hytrach galwn ar i bobl Cymru dderbyn bod rhain yn rymoedd y gallwn eu herio ac iddynt ymuno yn ein brwydr gyffrous – dyma her fawr y maniffesto hwn.
Tra bod anghyfiawnder i’w weld ar draws y byd a thra bo diwylliannau o bob math yn diflannu, glynwn yn gryf at yr angen i ddechrau wrth ein traed. O ganlyniad, prif ffocws ein holl bolisïau ac ymgyrchu yw’r angen i bwysleisio’r amodau hynny a fydd yn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru.
Trwy wneud hynny, gallwn gyfrannu at yr ymgyrch ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fod ymgyrchu o blaid yr iaith hefyd yn golygu ymgyrchu dros yr hawl i reoli ein dyfodol. Ar yr un pryd, pwysleisiwn barodrwydd parhaol Cymdeithas yr Iaith i gyd-weithio gyda mudiadau radical eraill sydd yn rhannu ein gweledigaeth ac yn awyddus i weld newid. Sylweddolwn y bydd yn rhaid wrth newidiadau sylfaenol os ydym am sicrhau dyfodol i’n hiaith a’n cymunedau. Serch hynny, nid ydym mor hy â honni y gwnawn hynny ein hunain. Credwn fod modd sicrhau
gwelliannau ystyrlon a phositif o fewn y gyfundrefn bresennol a’i bod yn ddyletswydd arnom i ymgyrchu i’w sicrhau, tra ar yr un pryd yn cyngrheirio gydag eraill i sicrhau fod popeth yn newid.
Felly, cyflwynwn y maniffesto hwn i’n haelodau a’n cefnogwyr, gan obeithio y bydd yn hwb i weithgarwch cyson. Ond, nid maniffesto cyfyngedig i aelodau’ Cymdeithas yr Iaith yn unig mo hwn. Cyflwynwn ef hefyd i bobl Cymru yn gyffredinol, gan alw arnynt i ystyried ei
gynnwys ac i ymuno yn y frwydr. Yn ogystal, gan ein bod yn gweld adferiad yr iaith mewn cyd-destun o adferiad cymdeithasol cyffredinol, galwn ar awdurdodau lleol, undebau llafur a grwpiau pwysau eraill i roi sylw difrifol i’n cynigion.
Deffrwch!
Llwythwch Maniffesto 1992 - Cymuned Rhydd Nid Marchnad Rydd i lawr
I ddilyn
Dogfennau Etholiadau
Mae bellach yn bum mlynedd ers i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi ein dogfen weledigaeth ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ ac mae’n dair blynedd ers i’r llywodraeth gyhoeddi ei strategaeth ar gyfer cyrraedd y targed hwnnw.
Roedd tri amcan yn perthyn i weledigaeth y Gymdeithas o filiwn o siaradwyr a gyhoeddwyd yn 2015, sef gofyn i’r pleidiau ymrwymo i’r canlynol:
1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn
2. Atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau
3. Defnyddio’r iaith ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd.
Ers datganoli, mae nifer o strategaethau iaith digon clodwiw wedi eu mabwysiadu gan lywodraethau datganoledig, ond wedi mynd yn angof wedi hynny. Ar y cyfan, methiant fu hanes y polisïau a’r strategaethau iaith datganoledig hyn. Mae cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol am y methiant hwn, gan gynnwys y neo-ryddfrydiaeth remp sy’n cael ei derbyn bron â bod yn ddi-gwestiwn yn ein disgwrs cyhoeddus. Un arall yw’r ffaith bod y Gymraeg wedi ei thrin fel eithriad i brif ffrwd gweinyddiaeth a bywyd cyhoeddus Cymru; fel iaith ymylol, symbolaidd yn
unig i’w thrin yn docenistaidd. Nid oes angen edrych ymhellach na’r trafodaethau yn ein Senedd genedlaethol ein hunain i weld, a chlywed yn glir, bod ein bywyd cyhoeddus yn un sy’n cael ei gynnal bron â bod yn uniaith Saesneg. Dyma Senedd lle clywir rhai’n dadlau nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol, ac yn wir ei bod yn allgáu. Heb os, nawr yw’r amser i herio’r camsyniad peryglus hwn, a hynny ar frys.
Dros y misoedd diwethaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgynghori â phobl o bob rhan o’r wlad ar eu barn nhw am sefyllfa’r Gymraeg, a strategaethau iaith y llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus. Mae llawer o’r bobl rydyn ni wedi ymgynghori â nhw dros y misoedd diwethaf wedi
mynegi awydd i’r llywodraeth nesaf ganolbwyntio ar gyflawni miliwn o siaradwyr: amcan sydd
wedi ennyn consensws ar draws y pleidiau gwleidyddol a’r gymdeithas sifig.
Wedi tair blynedd o anelu fel gwlad at y nod hwn, mae consensws nad yw gweithredoedd y llywodraeth genedlaethol bresennol ac awdurdodau eraill yn ddigonol er mwyn ei gyflawni. Mae peryg felly yr ail-adroddwn hanes strategaethau iaith blaenorol o addo llawer ond methu
cyflawni, a hynny er gwaethaf cefnogaeth gref y cyhoedd.
Mae’r ddogfen hon yn ymgais i ddadansoddi ac adeiladu ar y consensws, gan amlygu cyfleoedd i fynd ymhellach ac yn gyflymach gan ddyfnhau ac ymestyn y weledigaeth wreiddiol. Wrth edrych ymlaen, mae’r Gymdeithas yn gwbl hyderus, os yw’r llywodraeth nesaf yn fodlon dilyn y llwybr cywir, y caiff targed y miliwn o siaradwyr ei gyrraedd, erbyn 2050 fan hwyraf.
Gan ein bod yn ffyddiog y gall y llywodraeth nesaf gymryd y camau iawn i gyrraedd miliwn o siaradwyr, credwn y dylai’r llywodraeth gyflwyno agenda ‘mwy na miliwn o siaradwyr’ er mwyn normaleiddio’r Gymraeg fel priod iaith ein cenedl ymhob agwedd ar fywyd.
Nid yw agenda ‘mwy na miliwn’ yn cyfeirio’n bennaf at dargedau ar gyfer creu mwy na miliwn o siaradwyr (er y bydd angen canolbwyntio ar hynny yn ogystal) ond yn hytrach at ddyfnhau’r agenda drwy ganolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r iaith yn ein cymunedau, ein gweithleoedd
a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig. Yn ein gwaith ymgysylltu, mae nifer o bobl wedi cyfeirio at y rhwystrau sy’n wynebu rhai grwpiau rhag cael mynediad at yr iaith—gan gynnwys rhwystrau daearyddol, economaidd, gwybodaeth neu
ddosbarth cymdeithasol. Dyna sy’n ein harwain i alw’n ogystal am ‘ddinasyddiaeth Gymraeg i bawb’ er mwyn sicrhau bod pawb, yn ddieithriad, yn cael dysgu, profi a defnyddio’r iaith mewn modd ystyrlon yn eu bywydau beunyddiol.
O’r ffoadur sydd newydd ddod i’n gwlad, y gymuned hirsefydlog o Ddwyrain Ewrop, i’r glanhäwr mewn ysgol Gymraeg, nid yw’r strwythurau na’r polisïau ar waith i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon i ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Mae’r patrwm hwn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo—mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb sy’n gweld Cymru fel cartref iddynt, nid rhai yn unig. Yn yr oes ôl-Covid, gyda methiant y gyfundrefn economaidd bresennol a thwf yr adain dde eithafol, mae nawr yn amser pwysicach nag erioed i gynnwys pobl o bob cefndir yn yr iaith—bydd y Gymraeg yn arf dros undod yn erbyn gwleidyddiaeth cynyddol adweithiol.
Diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yw ochr arall y geiniog hon; dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol. Ac felly mae Cymry Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn ei siarad fel ei gilydd o dan yr argraff bod cynnal gofodau—o gymunedau daearyddol, i weithleoedd i ddigwyddiadau—sy’n uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau gwir fynediad i’r iaith i bawb yn hanfodol felly fel rhan o’r gwaith o gynyddu nifer y gofodau lle mai’r Gymraeg yw’r cyfrwng iaith arferol.
Mae’r llywodraeth nid yn unig yn methu o ran cefnogi ymdrechion i greu a chynnal gofodau uniaith Gymraeg, mewn nifer o feysydd mae’n fwriadol ac yn anfwriadol yn eu tanseilio — o’r diffyg hawl i staff atodol ysgolion Cymraeg gael amser ac adnoddau i ddysgu’r iaith i’r ymgais i ddarbwyllo’r Llyfrgell Genedlaethol i beidio dynodi Cymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol, sef un o’r sefydliadau llawer rhy brin sy’n gweinyddu’n fewnol yn y Gymraeg. Nid oes gwir gydnabyddiaeth gan wleidyddion na sefydliadau cyhoeddus o’r
gwahaniaeth ansoddol anferth mae gofodau uniaith Gymraeg yn ei wneud o ran cynyddu defnydd yr iaith, ei normaleiddio a chreu siaradwyr hyderus.
Mae’r agwedd hon yn ymestyn at y difaterwch rydym yn ei weld tuag at sefyllfa fregus rhai o’n cymunedau lle mae cyfran helaeth yn siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio fel iaith feunyddiol. Nid oes cydnabyddiaeth ystyrlon o werth y Gymraeg fel prif iaith bywyd bob dydd, ac nid oes chwaith fesurau economaidd-gymdeithasol ar waith i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol sy’n gyrru allfudiad pobl ifanc, dirywiad yr economi leol a cholli adnoddau cymunedol.
Drwy ganolbwyntio ar yr agenda ‘mwy na miliwn—dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’ a amlinellir yn y ddogfen hon, gellir sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn iaith bywydau beunyddiol pawb yn ein gwlad, o bob cefndir. Gyda’r etholiad nesaf yn dod wedi ugain mlynedd o ddatganoli, mae’n hen bryd cymryd y cyfle i ddangos sut gall hunanlywodraeth wneud gwir wahaniaeth. Byddai cofleidio a gwreiddio dinasyddiaeth Gymraeg i bawb yn mynd ffordd bell tuag at adeiladu’r Gymru yr hoffem ei gweld: gwlad lle mae pob un ohonom, a phob cymuned, ar seiliau cadarn tuag at ddyfodol cynaliadwy, cyfiawn a Chymraeg.
Llwythwch Mwy na Miliwn: Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb i lawr