Addysg

Addysg Gymraeg i Bawb

Nid hawl i’w gymryd neu ymwrthod ag ef yw’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg, ond sgil hanfodol i bob disgybl a myfyriwr. Mae angen gwireddu hyn ar frys er mwyn sicrhau fod pobl ddisgybl yn cael y sgil hwn.

Golyga hyn sicrhau:

  • trosgwlyddo gwybodaeth a sgiliau i alluogi pobl ifainc i aros yn a chyfrannu at eu cymunedau, i ddeall ac yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru a datblygu'r sgiliau i ddadansoddi a chael dylanwad, a deall lle potensial Cymru yn y byd
  • cynyrchu pobl sy'n dod allan o'r system addysg sy'n gallu cyfathrebu, siarad, defnyddio a gweithio'n hyderus yn y Gymraeg
  • pawb yn gweld ac yn gwerthfawrogi'r gymraeg fel rhan o'u hunaniaeth a'u hetifethiaeth eu hunain
  • creu strwythurau addysg i gefnogi'r iaith a chymunedau Cymraeg

Polisïau

  • diwygio cwricwlwm i wneud dealltwriaeth gymunedol a gwleidyddol yn hanfodol
  • diwygio cwricwlwm i ddileu cysyniad Cymraeg ail iaith ac yn ei le chreu un continwwm ddysgu Gymraeg
  • sicrhau fod addysg gyflawn Gymraeg yn dod yn fwy o norm a bod pob disgybl yn cael o leiaf rywfaint o'i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • cyflwyno'r Gymraeg yng nghyd-destun dysgu am sefyllfa economaidd a diwylliannol yr ardal leol
  • dulliau dyfeisgar o gynnal ysgolion cymunedol a'u datblygu i adfer y cymunedau trwy eu hagor i Gymreigio'r gymuned gyfan, nid plant yn unig. Dulliau hefyd o agor (ar y we) adnoddau addysg uwch Gymraeg i bobl yn gyffredinol.
  • angen diwygio cyrsiau hyfforddi athrawon a hyfforddiant mewn swydd fel bod pob athro gyda gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyfrwng addysgu ac fel bod meithrin dealltwriaeth a sgiliau cyfrannu at y gymuned a democratiaeth Gymreig yn thema drawsgwricwlaidd

Rhaid fod yr hyn a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn berthnasol i anghenion Cymry ifanc. Rhaid i’r cwricwlwm rymuso disgyblion gyda’r wybodaeth hanfodol am Gymru heddiw, a rhoi'r sgiliau iddynt i werthuso, ffurfio barn a dylanwadu a chreu Cymru’r dyfodol.

Rhaid i’r sefydliadau addysgol eu hunain fod yn rhan annatod o’n cymunedau a’u cryfhau at y dyfodol.

Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi

Ymgyrchwn ar frys dan faner "Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi". Ond rhaid datblygu’r un strategaeth hefyd ar gyfer cyd-destun trefol a chreu ysgolion aml-safle fydd yn rhan o adfywio pob cymdogaeth. Os bydd ein hysgolion yn rhan canolog o’n cymunedau, bydd modd creu cymunedau Cymraeg yn hytrach nag ysgolion Cymraeg yn unig.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rhaid bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd wedi’i wreiddio yng nghymunedau ac yn nyheadau ac yn anghenion pobl Cymru. Yn hytrach na bod yn “uwch-bwyllgor” rhannu grantiau, neu’n mini-goleg yn cystadlu mewn marchnad Addysg Uwch, dylai’r Coleg Cymraeg roi arweiniad i’n cenedl yn y sefydliadau, yn ein cymunedau, arlein a thrwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol ac eraill i ymchwilio i anghenion Cymru.
Mae mwy o wybodaeth yn ein papur ar ddatblygu'r Coleg Cymraeg

Mae ymgyrchoedd addysg y Gymdeithas yn cael eu harwain gan Toni Schiavone, cysylltwch â Toni dros ebost:toni@cymdeithas.cymru

Beth allai wneud?

Mae sawl ffordd gallwch chi helpu'r ymgyrch...

Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos yn fuan.

Mehefin 29 ain - Carmel / Fron Dyffryn Nantlle

Diwrnod llawn gweithgareddau er mwyn gyrru neges i Leighton Andrews a Chyngor
Gwynedd ein bod ni'n mynnu byw. Ac i fynnu dyfodol i Ysgolion Carmel a Bronyfoel

...

Fel rhan o ymgyrch am addysg Gymraeg i bawb mae Cymdeithas yr Iaith yn ffilmio clipiau byr o bobl sydd am ddweud sut bydden nhw wedi manteisio o addysg Gymraeg, a sut maen nhw wedi cael budd o addysg Gymraeg.

Byddwn ni yn y...

Caffi Contesa Llanrwst.

Dyma gyfle i aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas ddod at eu gilydd yn ardal Conwy i drafod gwaith y Gymdeithas yn yr ardal.

Byddwn yn canolbwyntio ar ddau thema -

Addysg Gymraeg i Bawb

...