Dileu Cymraeg Ail Iaith: Croesawu 'cam ymlaen'

Mae mudiad iaith wedi croesawu sylwadau mewn cyfweliad gan Weinidog sy'n awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gan un cymhwyster newydd i bob disgybl.

Yn y cyfweliad ar raglen newyddion S4C, dywedodd Gweinidog y Gymraeg y bydd y system addysg yn 'symud at un continwwm' fel bod 'pob un plentyn' yn 'gallu bod yn rhugl yn Gymraeg'. Cyfeiriodd at y cyfnod o ddiwygio'r cymhwyster Cymraeg ail iaith fel 'cyfnod pontio' a fydd yn dod i ben yn 2021 gan awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gydag 'un ffrwd' erbyn y dyddiad hwnnw.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog gan ofyn am gadarnhad y bydd un cymhwyster Cymraeg cyfun i bob plentyn yn cael ei sefydlu yn lle'r cymwysterau presennol.

Meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg y Gymdeithas:

"Rydyn ni'n croesawu sylwadau'r Gweinidog fel cam ymlaen ac am ei ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn rhugl yn yr iaith. Rydyn ni'n aros am gadarnhad pendant ganddo ei fod yn bwriadu dileu'r cymwysterau ail iaith a chreu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn lle. Os dyna yw polisi newydd y Llywodraeth, mae oblygiadau sylweddol o ran hyfforddiant i ymarferwyr addysg. Bydd angen cynnydd sylweddol a chyflym yng nghanran y gweithlu sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.

"Hefyd, rydyn ni'n awyddus talu teyrnged i flaengaredd yr Athro Sioned Davies ac arbenigwyr eraill sydd wedi pwyso am y newidiadau pellgyrhaeddol hyn. Mae'r ymgyrch yn sicr yn dechrau dwyn ffrwyth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn cadarnhad gan y Gweinidog am ei fwriad i greu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ynghyd â'r camau nesaf ymlaen."

Bydd ein rali flynyddol, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb. Ymysg y siaradwyr bydd y Prifardd Cen Williams, yr actor John Pierce Jones a disgyblion lleol.