
Wrth ymateb i sylwadau Alun Davies am Safonau'r Gymraeg dywedodd Manon Elin, Cadeirydd ein Grŵp Hawl i'r Gymraeg:
"Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud ei fod am adeiladu ar gyfundrefn y Safonau, ac mae hynny i'w groesawu. Yn fwy na hynny mae angen cryfhau Mesur y Gymraeg er mwyn ymestyn y Safonau Iaith i'r holl sector breifat a chynnwys hawl diymwad i ddinasyddion Cymru fedru defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau ar wyneb y Mesur - gan roi cig ar esgyrn y gyfundrefn Safonau bresennol.
"Mae'n amserol bod adolygu'r Mesur gyda'r bwriad o'i gryfhau yn sgil newid yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru; yn wahanol i brosesllunio Mesur 2011, mae'r grymoedd ym Mae Caerdydd bellach i sicrhau Mesur Iaith cadarn sy'n ateb dyheadau ac uchelgais pobl Cymru a'n cynrychiolwyr - yn hytrach na gwleidyddion Llundain.
"Rydyn ni wedi llunio dogfen ein hunain yn argymell sut y gallai'r Mesur gael ei gryfhau ac wedi cael sylwadau gan arbennigwyr a phobl â phrofiad ar y ddogfen honno. Mae'n dogfen ni'n amlinellu sut y dylai'r Mesur gael ei gryfhau er lles pobl Cymru, ac i gynyddu defnydd o'r Gymraeg yn hytrach nag er lles biwrocratiaid a chyrff mawr sy'n esgeuluso'u dyletswyddau o ran y Gymraeg."