Lansio deiseb oherwydd oedi ar hawliau iaith yn y sector breifat

Mae mudiad iaith wedi lansio deiseb yn galw ar i'r Llywodraeth sicrhau bod gan bobl hawliau i wasanaethau i'r Gymraeg yn y sector breifat, pum mlynedd ers i ddeddfwriaeth iaith gael ei basio. 

Daw'r newyddion wrth i Gomisiynydd y Gymraeg osod yr amserlen lywodraeth leol, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gydymffurfio â'r Safonau newydd. Mae Mesur y Gymraeg yn grymuso'r Llywodraeth a'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a gwirfoddol yn ogystal â nifer o gwmnïau preifat megis cwmnïau ffôn, trafnidiaeth ac ynni. 

[Cliciwch yma i lofnodi'r ddeiseb]

Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd y Prif Weinidog na all bobl ddisgwyl hawliau iaith gan gannoedd o gyrff yn y sector breifat, megis Trenau Arriva Cymru, a Network Rail, cyn Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesafEleni, cafodd dros ddau gant o gyrff eu hepgor o'r rhaglen o greu hawliau iaith, sef Safonau'r Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau trên a bwsMae'r datganiad gan y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau na fydd cwmnïau megis rhai ynni, trafnidiaeth a thelathrebu ydod o dan ddeddfwriaeth iaithcyn etholiadau'r Cynulliad. 

Wrth sôn am lansiad ei deiseb ar wefan y Cynulliad, dywedodd Manon Elin, llefarydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: 

"Mae'n destun pryder mawr, pum mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth iaith gael ei basio, nad yw'r Comisiynydd na'r Llywodraeth wedi defnyddio'r holl bwerau sydd gyda nhw. Mae cannoedd ar filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd - ar y trenau a'r bysiau a chan gwmnïau ffôn ac ynni - achos eu diffyg gweithredu. Cafodd Mesur y Gymraeg ei basio'n unfrydol gan y Cynulliad: drwy beidio â'i weithredu felly, mae'r Comisiynydd yn rhwystro ewyllys democrataidd pobl Cymru. Dyna pam rydyn ni newydd lansio deiseb sy'n mynnu eu bod yn cyflawni'r hyn maen nhw wedi addo. 

"Mae'n rhaid codi cwestiynau am flaenoriaethu'r Comisiynydd hefyd - pam oedi rhag gosod Safonau ar gwmnïau trên, bws, ffôn ac ynni? Mae'r rheiny'n wasanaethau sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl bob dydd. Os mai blaenoriaeth y Llywodraeth a'r Comisiynydd yw hybu defnydd y Gymraeg, yna dylen nhw symud yn gyflym i ddod â'r cwmnïau hyn o dan y Safonau. Mae gan y Comisiynydd gwestiynau mawr i'w hateb am hyn. 

"Mae hefyd angen cyflymu a symleiddio'r broses o osod y Safonau ar gyrff a chwmnïau. Mae angen diwygio Mesur y Gymraeg drwy ei ymestyn i weddill y sector breifat, gan gynnwys archfarchnadoedd a banciau. Byddai hyn yn sicrhau gwasanaethau Cymraeg gwell gan yr holl sectorau, preifat a gwirfoddol." 

Mae deiseb y mudiad ar wefan y Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r holl Safonau i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn yr etholiad yn 2016, ac i ymestyn Mesur y Gymraeg i gynnwys weddill y sector breifat. 

[Cliciwch yma i ddarllen en crynodeb o'r hawliau iaith newydd]