Toriad i S4C yn torri addewid maniffesto'r Ceidwadwyr

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o ddweud 'celwyddau' wedi iddyn nhw gyhoeddi toriad o 26% i grant S4C er gwaethaf addewid maniffesto i 'ddiogelu' cyllideb y sianel. 

Ym mis Hydref 2010 penderfynodd Llywodraeth Prydain gwtogi’r grant i S4C o 94% dros bedair blynedd £101 miliwn yn 2010-11 lawr i £7 miliwn yn 2014/15.  Ond, cafwyd addewid ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr y bydden nhw'n "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C.” 

Wrth feirniadu'r cyhoeddiad, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru. Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i'w haddewid. Byddwn ni'n cynnal protest yng Nghonwy ddydd Sadwrn, a byddwn ni'n annog bawb sy'n cefnogi'r Gymraeg i ddod I'r brotest honno."  

Bydd y mudiad iaith yn cynnal protest yng nghanol dref Conwy am 1pm, dydd Sadwrn 28ain Tachwedd. 

Manylion  y rali ar Facebook

Manylion y Rali ar ein gwefan