Ymgyrchwyr yn croesawu cadarnhad o ddileu cymhwyster ail iaith cyn 2021

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Alun Davies y bydd cymwysterau Cymraeg "ail iaith" yn cael eu dileu erbyn 2021, gan sefydlu un cymhwyster cyfun yn ei le. Gan ymateb i gwestiwn gan Siân Gwenllïan AC ddoe, dywedodd y gweinidog dros y Gymraeg y byddai "cyfnod pontio" yn arwain at "ddisodli" Cymraeg ail iaith yn 2021. 

 

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: 

"Ry'n ni'n croesawu'r cyhoeddiad pwysig yma. Nawr mae angen buddsoddiad teilwng o adnoddau, a rhaglenni hyfforddiant cynhwysfawr, er mwyn symud yn effeithiol i drefn newydd, ble mae'r Gymraeg yn un pwnc i bawb. Wrth gwrs, byddwn ni'n cadw llygad barcud ar y Llywodraeth, mae'n holl-bwysig bod cadw at yr amserlen o ddileu'r cymwysterau methedig hyn erbyn 2021. Ond mae ymrwymiad cadarn gan Alun Davies, ac wrth groesawu hynny, byddwn yn ymatal rhag weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru. Gyda'r ymrwymiad yma fel sail, byddwn yn cyfarfod ac yn llythyru er mwyn dwyn y maen i'r wal. 

"Hoffwn ddiolch i'r cannoedd o bobl sydd wedi cefnogi'r ymgyrch yma, trwy ddod i ralïau, gweithredu uniongyrchol, llofnodi deisebau, a chefnogi'n ariannol. Nid yw'r ymgyrch ar ben – y cam nesaf yw ein rali flynyddol yn galw am addysg Gymraeg i bawb, ddydd Sadwrn nesaf yn Llangefni. Byddwn yn parhau i weithio, a bydd dal angen eich cefnogaeth, nes bod pob person ifanc yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn gallu'r Gymraeg."