Aelodaeth

Mae croeso i bawb ymuno â Chymdeithas yr Iaith. 

  • Tâl aelodaeth llawn, £2 y mis
  • Tâl aelodaeth gostyngol, £1 y mis (e.e. ar gyfer disgyblion, myfyrwyr, y di-gyflog, pensiynwyr)

Ymuno drwy archeb banc

Dyma'r ffordd orau o sicrhau incwm cyson i'r Gymdeithas. Mae cyfraniadau sefydlog o'r fath yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chyflogi staff.

Cytundeb rhyngoch chi a'ch banc yw archeb banc (standing order), ac mae'n haws i chi ei sefydlu eich hun – yn eich cangen leol neu ar-lein – ond esbostiwch post@cymdeithas.cymru yn gyntaf er mwyn i ni roi rhif aelodaeth i chi ei ddefnyddio fel cyfeirnod.

Dyma'r manylion y bydd eu hangen arnoch:

Enw'r cyfrif: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Côd trefnu: 40-16-02 (HSBC Caernarfon)

Rhif y Cyfrif: 81072102

Ymuno ar-lein

Gallwch drefnu talu'n fisol gyda'ch cerdyn banc yma

Mae cyfraniadau rheolaidd o'r fath yn bwysig ar gyfer sicrwydd ariannol y Gymdeithas. Cofiwch: bydd angen i chi ail-ymaelodi pan ddaw'r cerdyn i ben neu os ydych yn ei golli.

Gallwch dalu am flwyddyn yn unig, yma.

Os am wneud cyfraniad ariannol, heb ymaelodi, gallwch wneud hynny yma.

Ymuno drwy'r post

Gallwch argraffu ffurflen ymaelodi (dogfen pdf) ac yna dychwelyd y ffurflen wedi'i chwblhau gyda siec (yn daladwy i 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg') ar gyfer blwyddyn yn unig i: Cymdeithas yr Iaith, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth SY23 1JH.

Beth mae aelodau yn ei wneud?

Er mwyn sicrhau bod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn llwyddiannus ac effeithiol, mae angen cymorth ein haelodau. Gellir helpu mewn amryw ffyrdd – mae rhai enghreifftiau isod – ac rydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi cymorth gan arbenigwyr (megis cyfreithwyr, dylunwyr, ac ati).

Mae pob cyfraniad yn bwysig ac yn helpu'r mudiad i gyrraedd y nod!

  • Helpu gyda threfniadau rhai o'r prif ymgyrchoedd neu bod yn rhan o waith y grwpiau ymgyrchu: Hawl i'r Gymraeg, Cymunedau Cynaliadwy, Dyfodol Digidol, Addysg (ac mae hefyd efo ni Is-grwpiau Iechyd, Amaeth ac Amgylcheddol)
  • Cyfrannu at waith rhanbarthau neu gelloedd lleol
  • Adloniant  trefnu gigs, ac ati
  • Codi Arian
  • Helpu gyda threfniadau lleol
  • Cyfieithu a phrawfddarllen
  • Dylunio, creu fideos a delweddau
  • Cynorthwyo gyda thasgiau gweinyddol megis cyfieithu, teipio neu bostio
  • Gweithredu

Os ydych yn meddwl eich bod yn gallu helpu mewn y gelli di gyfrannu mewn unrhyw fodd, noda hynny ar dy ffurflen aelodaeth.