Cyfrannu’n ariannol
Cartref > Chwarae rhan > Cyfrannu’n ariannol
Mudiad gwirfoddol yw Cymdeithas yr Iaith ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan aelodau a chefnogwyr eraill i gyflawni’n gwaith.
Gall y gefnogaeth honno fod yn gefnogaeth ymarferol trwy wirfoddoli.
Ond gall fod yn gefnogaeth ariannol hefyd. Ar hyd y blynyddoedd, mae rhoddion a chymynrhoddion gan garedigion yr iaith wedi bod yn hollbwysig o ran ariannu ein gwaith. Drwy eich cefnogaeth chi gallwn ddal ati i ymgyrchu dros ddyfodol mwy cadarn i'r iaith ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Os hoffech gyfrannu'n ariannol at waith y Gymdeithas, gallwch wneud hynny yma gyda cherdyn banc (nodwch y swm yr hoffech ei gyfrannu yn y blwch isod). Gallwch hefyd anfon siec at y brif swyddfa neu wneud trosglwyddiad banc arlein (cysylltwch i gael manylion ein cyfrif banc).
Gwerthfawrogir unrhyw swm a bydd pob ceiniog yn helpu ni i gyflawni ein gwaith.
Diolch!