Bydd Pwyllgor Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod dros Zoom am 4.00, prynhawn Llun, 9 Rhagfyr.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys siaradwyr Cymraeg newydd a rhai profiadol – a phopeth yn y canol!
Prif waith y pwyllgor yw llunio rhaglen gweithgarwch ar gyfer dysgwyr/siaradwyr newydd. Os oes gennych ddiddordeb yn y maes felly – naill ai fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg ac efo syniadau am y math o weithgarwch yr hoffech ei weld, neu fel siaradwr rhugl sydd eisiau cynorthwyo eraill i wella eu Cymraeg – beth am ymuno â'r pwyllgor. Bydd croeso mawr i chi.
Ac os nad ydych chi'n siwr, dewch i'r cyfarfod hwn i gael gweld beth yw beth.
Ebostiwch post@cymdeithas.cymru am wybodaeth bellach neu am ddolen Zoom neu os hoffech fod ar y pwyllgor ond yn methu dod i'r cyfarfod ar y 18fed.