Carmarthenshire: Expanding Welsh-medium education provision
2026-06-25
Home > News > Carmarthenshire: Expanding Welsh-medium education provision
Ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn rhai o ardaloedd trefol Sir Gaerfyrddin
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn rhai o ardaloedd trefol y Sir.
Cymeradwyodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a’r Gymraeg y cyngor yr argymhelliad i ymgynghori ar wneud newid rheoledig i'r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgolion cynradd canlynol: Ysgol Bro Banw, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llandybie. Bydd y penderfyniad yn mynd at y Cabinet ddydd Llun (29/06/2026) i gael sêl bendeith.
Meddai llefarydd ar ran Rhanbarth Caerfyrddin, Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym yn falch iawn bod y Cyngor am ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn yr ysgolion hyn, gan symud yn nes at y nod o sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o’r gallu i weithio a chyfathrebu’n hyderus yn y ddwy iaith.
“Croesawn yn enwedig y newidiadau i ysgol fawr drefol Ysgol Bro Banw. Er, rydym am eglurhad ynghylch y penderfyniad i sefydlu ffrwd ddwy-iaith yn yr ysgol, yn hytrach na’i Chymreigio’n llwyr. Mae’r ymchwil yn dangos mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o sicrhau dwyieithrwydd ymhlith pobl ifanc.
“Mae’n werth nodi bod yna saith ysgol gynradd ddwyieithog yn y sir, yn ogystal â’r rhai a grybwyllwyd yn yr adroddiad – a nifer o’r rhain yn darparu addysg Gymraeg yn unig yn y Cyfnod Sylfaen. Rydym felly’n annog y Cyngor i fwrw ymlaen â’r gwaith o droi’r holl ysgolion dwyieithog hyn yn rhai Cymraeg, a mynd i’r afael â diffygion darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd fel de-orllewin y sir a thref Caerfyrddin yn ogystal.
“Ar yr un pryd, rydym yn gresynu bod y Cyngor yn tynnu addysg Gymraeg allan o’n cymunedau gwledig. Er eu bod yn cynyddu’r capasiti yn Sancler, maen nhw'n colli'n gyfatebol gapasiti cyfrwng Cymraeg yn yr ardal trwy eu cynlluniau i gau Ysgol Meidrim. Galwn felly am strategaeth newydd a chynaliadwy ar gyfer addysg wledig.”
Ychwanegodd:
“Edrychwn ymlaen at gyhoeddiad nesaf gan y Cyngor, pan fydd enwau pedair ysgol ychwanegol yn cael eu datgelu. Er hyn, mae’n siomedig bod rhaid aros tan yr Hydref am y cyhoeddiad hwnnw. Gofynnwn yn garedig i'r Cyngor gyflymu’r broses er mwyn atal yr anghyfiawnder i ddisgyblion sy'n cael eu hamddifadu o'r gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn ogystal â Saesneg.”