Steddfod Dinbych 2013

03/08/2013 - 20:00

Gigs Eisteddfod Dinbych 2013

Map o ardal yr Eisteddfod

  • Pwyswch yma ar gyfer Amserlen y Bws Gwennol (PDF) a fydd yn rhedeg trwy'r dydd, yn cludo pobl o Faes yr Eisteddfod i ganol Dinbych ac yn ôl. Bydd modd dod oddi ar y bws ychydig lathenni o Neuadd y Dre' a Thafarn y Gild (Guildhall).

Digwyddiadau ar y Maes - Eisteddfod 2013

Byw yn Gymraeg bob dydd - y safonau iaith a’n hawliau

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am sicrhau hawliau sylfaenol fel yr hawl i wersi ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith drwy safonau iaith arfaethedig Llywodraeth Cymru. Dewch i glywed mwy a chyfrannu mewn cyfarfod agored.

11:30yb, Dydd Llun, Awst 5ed, Pabell y Cymdeithasau 2

Siaradwyr: Keith Davies AC (Llafur), Aled Roberts AC (Democrat Rhyddfrydol), Sian Howys (Cymdeithas yr Iaith), Elin Jones AC (Plaid Cymru), Cyng. Aled Davies (Ceidwadwyr).

Byw yn Gynaliadwy - y bil cynaliadwyedd newydd

Trafodaeth agored am y bil cynaliadwyedd newydd a'i botensial i warchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, cynnal y Gymraeg, gwella ansawdd ein bywyd a chreu swyddi gwyrdd.

10:30yb, Dydd Mawrth, Awst 6ed, Pabell y Cymdeithasau 2

Siaradwyr: Dafydd Elis Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Robin Farrar, Cymdeithas yr Iaith; Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru a Lila Haines, Oxfam Cymru.

Cefnogir gan Gynghrair y Bil Datblygu Cynaliadwy

Rydyn ni eisiau chwarae yn Gymraeg!

Byw yn Gymraeg ar ôl Ysgol - Ein Hawl

Eisiau gwersi nofio, piano, dawnsio, pêl-droed... yn Gymraeg? Dewch i fynnu bod sefydlu’r hawl i weithgareddau hamdden yn Gymraeg, a dewch â’ch dillad chwaraeon hefyd i ymuno yn yr hwyl!

12:30pm, Dydd Iau, Awst 8fed, Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Siaradwyr: Rhodri Gomer, Gareth Williams, Dafydd Morgan Lewis ac eraill

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau Cymraeg

Dydd Iau, 4:30pm Neuadd Ddawns

Rali Nid yw Cymru ar Werth, Na i Or-ddatblygu Ein Gwlad

“Rydyn ni eisiau byw mewn cymunedau Cymraeg”

12:00pm, Dydd Gwener, Awst 9fed, Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Siaradwyr: Tecwyn Ifan, Jill Evans ASE, Toni Schiavone, Menna Machreth, Glyn Jones