Cymdeithas yr Iaith i gyflwyno cwyn am adran addysg Cyngor Ceredigion i’r Gweinidog Addysg

Mae papurau ar gyfer cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion fore Mawrth nesaf (3 Medi), sy’n gofyn iddynt roi caniatâd i swyddogion yr awdurdod gychwyn proses o ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau pedair o ysgolion pentrefol cynradd Cymraeg y Sir, wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Yr ysgolion sydd dan fygythiad yw Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys ac Ysgol Craig yr Wylfa. Mae'r pedair ysgol ar Restr Ysgolion Gwledig y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), ac yn destun rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heno, os bydd y Cabinet yn pleidleisio dros ymgynghoriad o'r fath, y bydden nhw’n cyflwyno cwyn yn syth at y Gweinidog Addysg nad yw'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau addysgol ac yn mynd yn erbyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

O ganlyniad i gwyn tebyg ym 2019, bu’n rhaid i Gyngor Ynys Môn atal y broses o geisio cau dwy ysgol gynradd yn y sir.

Ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, esboniodd Ffred Ffransis:

"Nid yn unig fod Cyngor Ceredigion am danseilio nifer o gymunedau Cymraeg a'u gwagio o fywyd ifanc, ond mae'r holl broses yn gwbl groes i fersiwn 2018 o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion sy'n gosod rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig. Mae proses y Cyngor o adolygu'r ysgolion hyn yng nghyd-destun arbedion ariannol yng ngwariant y Cyngor, ac felly'n rhagdyb ymarferol yn erbyn cynnal yr ysgolion.

“Gofynnir i'r ysgolion gyfiawnhau eu bodolaeth er eu bod yn llwyddo'n addysgol. Ar ben hynny, mae'r Cod yn datgan yn eglur fod yn rhaid ystyried pob opsiwn arall tra bo cynigion ar gam ffurfiannol - hynny yw cyn gwneud cynnig - ond gofynnir i'r Cabinet awdurdodi ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig pendant cyn bod pobl yn codi opsiynau eraill. Petai'r Gweinidog yn caniatáu i'r Cyngor weithredu fel hyn, byddai'r Cod a rhagdyb o blaid ysgolion gwledig yn golygu dim"

Ychwanegodd Mr Ffransis:

"Rhybuddiodd Cymdeithas yr Iaith swyddogion y Cyngor ar ddechrau'r haf eu bod ar drywydd a oedd yn groes i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a'n cais oedd i ni gael cyfarfod â nhw er mwyn trafod yr opsiynau. Cafwyd ateb cwrtais yn ôl ym Mehefin yn dweud eu bod am ystyried y mater ond, ers hynny, ni fu unrhyw atebion i'n ceisiadau.

Byddai wedi bod yn well ganddyn ni fod y materion hyn wedi cael eu trafod yn agored gan geisio cytundeb am y ffordd ymlaen, ond mae'r swyddogion wedi mynnu bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad am eu cynnig negyddol nhw i gau ysgolion. Apeliwn ar aelodau'r Cabinet i wrthod yr argymhelliad ac yn hytrach galw am drafodaeth agored.”