Gigs Eisteddfod Dinbych 2013
Map o ardal yr Eisteddfod
- Pwyswch yma ar gyfer Amserlen y Bws Gwennol (PDF) a fydd yn rhedeg trwy'r dydd, yn cludo pobl o Faes yr Eisteddfod i ganol Dinbych ac yn ôl. Bydd modd dod oddi ar y bws ychydig lathenni o Neuadd y Dre' a Thafarn y Gild (Guildhall).
Digwyddiadau ar y Maes - Eisteddfod 2013
Byw yn Gymraeg bob dydd - y safonau iaith a’n hawliau
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am sicrhau hawliau sylfaenol fel yr hawl i wersi ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith drwy safonau iaith arfaethedig Llywodraeth Cymru. Dewch i glywed mwy a chyfrannu mewn cyfarfod agored.
11:30yb, Dydd Llun, Awst 5ed, Pabell y Cymdeithasau 2
Siaradwyr: Keith Davies AC (Llafur), Aled Roberts AC (Democrat Rhyddfrydol), Sian Howys (Cymdeithas yr Iaith), Elin Jones AC (Plaid Cymru), Cyng. Aled Davies (Ceidwadwyr).
Byw yn Gynaliadwy - y bil cynaliadwyedd newydd
Trafodaeth agored am y bil cynaliadwyedd newydd a'i botensial i warchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, cynnal y Gymraeg, gwella ansawdd ein bywyd a chreu swyddi gwyrdd.
10:30yb, Dydd Mawrth, Awst 6ed, Pabell y Cymdeithasau 2
Siaradwyr: Dafydd Elis Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Robin Farrar, Cymdeithas yr Iaith; Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru a Lila Haines, Oxfam Cymru.
Cefnogir gan Gynghrair y Bil Datblygu Cynaliadwy
Rydyn ni eisiau chwarae yn Gymraeg!
Byw yn Gymraeg ar ôl Ysgol - Ein Hawl
Eisiau gwersi nofio, piano, dawnsio, pêl-droed... yn Gymraeg? Dewch i fynnu bod sefydlu’r hawl i weithgareddau hamdden yn Gymraeg, a dewch â’ch dillad chwaraeon hefyd i ymuno yn yr hwyl!
12:30pm, Dydd Iau, Awst 8fed, Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Siaradwyr: Rhodri Gomer, Gareth Williams, Dafydd Morgan Lewis ac eraill
Cyfarfod Cynghrair Cymunedau Cymraeg
Dydd Iau, 4:30pm Neuadd Ddawns
Rali Nid yw Cymru ar Werth, Na i Or-ddatblygu Ein Gwlad
“Rydyn ni eisiau byw mewn cymunedau Cymraeg”
12:00pm, Dydd Gwener, Awst 9fed, Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Siaradwyr: Tecwyn Ifan, Jill Evans ASE, Toni Schiavone, Menna Machreth, Glyn Jones