Mwy na Miliwn

Lansio 'Mwy Na Miliwn'

Gwyliwch lansiad ein gweledigaeth 'Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb' uchod. Dr Elin Royles fuodd yn cadeirio ac ar y panel oedd: Joseff Gnagbo, Talulah Thomas, Mabli Siriol a Dr Osian Elias.  

Dogfennau

Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb

 

Mae'n bleser gennym heddiw lansio ein dogfen weledigaeth 'Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb'. 

Yn y ddogfen, rydym yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i fynd tu hwnt i'r nod bresennol o filiwn o siaradwyr drwy sefydlu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb a sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o fywyd. 

Dogfennau

Etholiad 2021: Dadansoddi maniffestos y pleidiau

A ninnau yng nghanol etholiad, mae’n angenrheidiol argyhoeddi’r pleidiau o’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu’r Gymraeg yn hytrach na’i gadael yn ôl-ystyriaeth. Fel dinasyddion a phleidleiswyr, mae’r grym yn ein dwylo ni; mae’n hollbwysig ein bod felly’n ystyried record yr ymgeisyddion ar, a’u gweledigaeth ar gyfer, y Gymraeg cyn ein bod yn bwrw’n pleidlais.

Galw ar ymddiriedolwyr i beidio cau canolfan Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bechnogion Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd i beidio gwerthu’r tŷ, yn dilyn penderfyniad gan aelodau presennol pwyllgor yr ymddiriedolwyr i gau’r ganolfan Gymraeg a gwerthu’r adeilad.

 

More Than a Million - Welsh Language Citizenship for All

Cliciwch yma i ddarllen y fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon.

We are fully confident, if the next government is willing to follow the right steps, that the target of one million Welsh speakers will be achieved, by 2050 at the latest.

Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg - angen bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth nesaf

Dylai sefydlu corff newydd i greu cynnwys Cymraeg ar-lein fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr.

Mewn papur manwl am eu cynigion i sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ sydd wedi ei lansio heddiw fel rhan o’r Eisteddfod AmGen, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau dros sefydlu corff a fyddai â’r “prif nod i gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ... ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol”. 

Mwy na Miliwn