Datganoli Darlledu – ble mae Llywodraeth Cymru?

08/08/2018 - 15:00

Datganoli Darlledu – ble mae Llywodraeth Cymru? 

3pm, dydd Mercher, 8fed Awst  

(er mwyn sicrhau mynediad dylid cyrraedd prif fynedfa’r Senedd yn brydlon)  

Pabell y Cymdeithasau 2, Y Senedd, Bae Caerdydd 

Euryn Ogwen Williams (awdur adroddiad ar S4C), Gweinidog  Llywodraeth Cymru, Alun Davies AC ac Angharad Mair

Dyw cyfran o sylweddol pobl Cymru ddim yn ymwybodol bod materion fel iechyd ac addysg yn gyfrifoldeb ein Senedd yng Nghymru yn hytrach na San Steffan. Sut mae modd cynnal democratiaeth hyfyw yng Nghymru os nad yw rhan fawr o’r boblogaeth yn ymwybodol o bwy sy’n gwneud y penderfyniadau? Dyhead pobl Cymru yw datganoli pwerau darlledu i Gymru, gyda 65% ohonon ni yn ei gefnogi. 

Mae diffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, ac mae diffyg cynnwys Cymreig - prin fod Cymraeg o gwbl ar Made in North Wales ac mae dirywiad difrifol yn nifer oriau darlledu Cymraeg ar orsafoedd radio fel Radio Ceredigion a Radio Carmarthenshire. Ac mae penderfyniadau diweddar Llywodraeth Prydain yn golygu, wedi 2022, ni fydd S4C yn bodoli fel darlledwr annibynnol gan fydd dim fformiwla ariannol a bydd y sianel yn gwbl ddibynnol ar setliad y ffi drwydded bob deng mlynedd.  

Ond eto, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod cefnogi datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru. Dewch i holi pam.