Perygl o gefnu ar Fil Addysg Gymraeg radical

Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru droi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg radical yn sgil patrwm o ddiffyg ymrwymiad ac agwedd “llugoer” yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg tuag at y Gymraeg.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn anelu at gynnydd sylweddol mewn darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, yn dilyn cyhoeddiad ymateb Jeremy Miles i ymgynghoriad cyhoeddus ar bapur gwyn ar gyfer y Bil ar 21 Chwefror.

Er hynny, mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei wanhau yn sgil datganiadau llugoer gan Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg newydd tuag at yr iaith a’i amharodrwydd i gyfarfod gyda’r mudiad, er gwaethaf ceisiadau niferus ers mis Ebrill.

Yn natganiad cyntaf Lynne Neagle ar lawr y Senedd fel yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar 21 Mawrth, ‘Ein cenhadaeth genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru’, a oedd dros 1,200 o eiriau ac yn wyth munud o hyd, dim ond un frawddeg oedd yn cyfeirio at y Gymraeg, er y trafodwyd agweddau eraill o bolisi addysg mewn dyfnder.

Wythnos ynghynt, mewn ymateb i gwestiwn gan Llŷr Huws Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ar gynlluniau’r Llywodraeth i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg, cyfeiriodd Lynne Neagle at gyfrifoldebau awdurdodau lleol yn unig.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid ein cyfundrefn addysg a rhoi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru gyda’r Ddeddf Addysg Gymraeg. Mae hi’n chwithig ofnadwy felly nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, fyddai â chyfrifoldeb dros weithredu’r Bil, yn dangos unrhyw frwdfrydedd drosto na hyn yn oed ymwybyddiaeth ohono.

“Yn ehangach, mae hi’n annerbyniol nad yw hi'n dweud mwy nag un frawddeg tocenistaidd a chyffredinol am y Gymraeg mewn datganiad ar ei ‘blaenoriaethau’ ar gyfer addysg. Yr unig gasgliad posib yw nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth iddi.”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyfeirio at amharodrwydd yr Ysgrifennydd i gyfarfod gyda nhw fel rheswm i bryderu dros ddyfodol y Bil.

Ychwanegodd Toni Schiavone:

“Anfonon ni ein cais gwreiddiol am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd ar 12 Ebrill eleni, ac er ein bod wedi anfon sawl cais arall ers hynny, dydyn ni ddim wedi clywed yr un gair ganddi.

“Gydag agwedd mor llugoer tuag at yr iaith mewn datganiadau ar lawr y Senedd, a diffyg parodrwydd i gyfarfod â ni, mae lle i bryderu y bydd Llywodraeth Cymru yn troi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg radical, fel mae wedi gwneud eisoes gyda chonglfeini radical eraill o'i gweledigaeth mewn ymgais i blesio Plaid Lafur Llundeinig Keir Starmer, ar draul pobl Cymru.”