Pwy ydyn ni

Cartref > Amdanom > Pwy ydyn ni

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a'n cymunedau fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros ryddid a chyfiawnder yw Cymdeithas yr Iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisiau sicrhau cyfle cyfartal i’r Gymraeg, ac mae’n ymgyrchu trwy ddulliau di-drais dros hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o'u bywydau, gyda’r nod o weld yr iaith yn rhan gynyddol o fywydau pawb.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1962 a chynaliwyd y brotest dorfol gyntaf yn Swyddfa Bost Aberystwyth ac ar Bont Trefechan y flwyddyn ganlynol. Ers hynny rydyn ni wedi brwydro dros a llwyddo i gael pethau fel sianel deledu Gymraeg, arwyddion ffyrdd Cymraeg, statws swyddogol i’r Gymraeg – a mwy.

Rydyn ni’n gweithredu drwy grwpiau ymgyrchu mewn meysydd penodol – addysg, cymunedau cynaliadwy, dyfodol digidol, hawl i’r Gymraeg, iechyd a lles – a thrwy ein rhanbarthau, ac mae aelodau yn ganolog i'n gwaith.

Mae aelodau yn gallu cyfrannu mewn sawl ffordd wahanol. Does neb o fewn y Gymdeithas yn cael ei orfodi i wneud unrhyw beth a rhoddir pwyslais ar annog a chynorthwyo ein haelodau i gyfrannu a datblygu eu sgiliau er budd y gymuned. Mae angen pobl sy’n gallu ysgrifennu, dylunio, cyfathrebu, creu pethau, gyrru car, tynnu ffotograffau, pobl sy’n gallu meddwl am syniadau ar gyfer codi arian, pobl sy’n dda am drefnu neu bobl gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron, yn wir, beth bynnag eich diddordebau neu sgiliau, mae yna le i chi yng ngwaith y Gymdeithas.

Dydy brwydr y Gymraeg ddim ar ben

Er bod sefyllfa’r iaith wedi cryfhau dros y blynyddoedd, mae nifer o ffactorau fel effaith globaleiddio a dirywiad cymunedau Cymraeg yn dal i'w bygwth. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau – yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, cyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.

Beth am ymaelodi felly i gael bod yn rhan o’r chwyldro.

Cysyllta (01970 624501, post@cymdeithas.cymru) am sgwrs am sut gelli di fod yn rhan o’r frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg.