Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hawl dros Zoom am 7 o'r gloch, nos Iau, 13 Chwefror 2025.
Dyma'r grŵp sy'n ymwneud â hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg, statws y Gymraeg a defnydd cyrff o'r iaith felly os ydych yn aelod o'r Gymdeithas ac efo diddordeb yn y meysydd hyn, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.
Ac, os nad ydych yn sicr, dewch i arsylwi yn un o gyfarfodydd y grŵp a phenderfynu wedyn.