Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin adolygu ei Gynllun Moderneiddio Addysg mae Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth wedi galw ar y cyngor i ddefnyddio'r cyfle i greu cynllun blaengar sy’n cynnwys pawb ac yn cynnig atebion newydd.
Cyn etholiadau awdurdodau lleol llynedd penderfynodd y cyngor oedi ei gynlluniau i ymgynghori ar gau ysgolion Blaenau a Mynydd-y-garreg er mwyn adolygu'r Cynllun Moderneiddio Addysg. Dydy dyfodol yr un o'r ysgolion hynny, na sawl un arall yn y sir, ddim yn sicr er hynny.
Yn ôl y llythyr:
"Rydyn ni nawr yn wynebu dewis go iawn. Gall 'moderneiddio' addysg barhau i fod yn ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cau cymaint o ysgolion bach â phosibl, nawr bod etholiad wedi digwydd. Ar y llaw arall, gallai hwn fod yn adolygiad gwirioneddol ddychmygus o sut y gallai moderneiddio gryfhau ac ailfywiogi cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Os ydym wir yn dymuno adfywio ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol Cymraeg eu hiaith, pa ffordd well na chael ffocws cymunedol ym mhob un, wedi’i seilio’n bennaf ar ddinasyddion yfory ac yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg? Gallai cynllun arloesol ar gyfer moderneiddio ysgolion ehangu eu dylanwad yn hytrach na'u cau."
Yn ôl yn 2005, rhestrodd y Cynllun ddwsinau o ysgolion y dylid eu cau fel rhan o strategaeth i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu ysgolion canolog newydd gyda phwyslais ar gyfleusterau modern gan mai'r canfyddiad cyffredinol yw nad ydy ysgolion bach neu wledig yn derbyn buddsoddiad.
Ond fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles gadarnhau yn ddiweddar nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi o gronfa ysgolion yr 21ain ganrif i ysgolion bach.
Mae llythyr Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyngor i "[g]ymryd y Gweinidog Addysg wrth ei air a chyflwyno cais am gyllid ar gyfer to newydd i Ysgol Mynydd-y-garreg a phrosiectau tebyg. Mae’n bryd datgan, ar ôl degawdau o esgeulustod, bod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu eu cyfran deg o arian cyfalaf."
Y llythyr yn llawn:
Annwyl Gynghorydd,
Cyn yr etholiad lleol yn Sir Gâr y Gwanwyn diwethaf, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin beidio mynd ymlaen gyda chynllun i gau ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond yn hytrach i gyfarwyddo swyddogion i baratoi adolygiad llawn o Gynllun Moderneiddio Addysg y sir.
Credodd nifer mai ymdrech i osgoi problem etholiadol oedd hwn, ond croesawodd Cymdeithas yr Iaith y bwriad i adolygu Cynllun dadleuol iawn oedd mewn lle ers 2005.
Mae’r adolygiad yn digwydd yn awr, ac mae arweinydd y Cyngor wedi ceisio sicrhau y caiff pob cynghorydd fod yn rhan o’r broses. Ein pryder ni yw mai un wedd ar y sefyllfa fydd swyddogion yn ei rhoi i gynghorwyr etholedig, ac yn gweld angen i amddiffyn eu cynlluniau.
Yn sicr bydd Awdurdodau eraill sydd â chyfran helaeth o ysgolion gwledig hefyd yn gwylio canlyniad yr Adolygiad.
Yn ôl yn 2005, rhestrodd y Cynllun ddwsinau o ysgolion y dylid eu cau fel rhan o strategaeth i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu ysgolion canolog newydd gyda phwyslais ar gyfleusterau modern. Golygodd bygythiad i gau ysgolion dros y blynyddoedd bod llawer o rieni wedi penderfynu peidio danfon eu plant at yr ysgolion hyn rhag ofn y byddai’n rhaid i'w plant newid ysgol, gan feddwl y dylent “dderbyn yr anochel” ac na fyddai unrhyw un yn gwrando ar eu barn. Erbyn hyn, mae dwy genhedlaeth o lywodraethwyr wedi gorfod ceisio cynllunio dyfodol i ysgolion sydd dan fygythiad o gael eu cau, ac yn cael eu cadw’n brin o fuddsoddiad. Mae’r sefyllfa hon ers 18 mlynedd wedi bod yn annheg i bawb ac mae’n dda bod adolygiad llawn.
Y cwestiwn yw – Pa fath o adolygiad? A gaiff ofnau rhieni eu gwireddu trwy fod swyddogion yn ailgyflwyno’r un cynllun yn y bôn a bod ymdrech newydd i amddifadu pentrefi o un o’r ychydig wasanaethau sydd ganddynt? Neu a fydd y Cyngor yn dal ar y cyfle i weithredu adolygiad blaengar sy’n cynnwys pawb ac yn cynnig atebion newydd?
Hyd yn oed cyn 2005, roedd llawer o gymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith wedi colli eu hysgolion. Collodd fy nghymuned fy hun, sef Llanfihangel-ar-arth, ein hysgol bentref yn ôl yn 2003 - trwy gyd-ddigwyddiad anhygoel, y flwyddyn ar ôl i'r olaf o'n saith plentyn adael yr ysgol i gael addysg uwchradd! Mae ein cymuned wedi meddiannu'r adeilad ac yn y pen draw llwyddwyd i brynu'r adeilad a chael grant i'w uwchraddio.
Mae ffrydiau ariannu cwbl wahanol ar gael ar gyfer addysg a datblygiad cymunedol, mae hyn yn milwrio yn erbyn y cysyniad o adeiladau aml-bwrpas integredig mewn ardaloedd gwledig.
Ein profiad ni yw bod teuluoedd ifanc bellach yn llai tebygol o symud i dai mewn pentref heb ysgol, dydyn ni bellach ddim yn adnabod y bobl sy’n symud i’r gymuned. Daeth dosbarthiadau Cymraeg i oedolion i ben a chaeodd y Swyddfa Bost a’r Siop o fewn misoedd i gau yr ysgol.
Rhoddwyd gobaith newydd i ysgolion gwledig yn 2018 pan ddaeth Kirsty Williams, AoS Brycheiniog a Maesyfed ar y pryd, yn gyfrifol am Addysg. Diwygiwyd y Cod Trefniadaeth Ysgolion gyda pholisi newydd o "ragdybiaeth yn erbyn cau", a chyfarwyddyd i ymchwilio i bob dewis heblaw cau. Cyfeiriwyd yn arbennig at ffedereiddio, lle gellid cyflawni holl fanteision trefniadol ac addysgol ysgol ardal ganolog mewn cyd-destun aml-safle tra yn cynnal ysgolion pentrefol.
Yn ymarferol, fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod swyddogion Llywodraeth Leol yn gweld y cod newydd fel blychau ychwanegol i'w ticio cyn cynnig cau ysgolion. Mae yna hefyd anghysondeb nad yw ysgolion (fel Mynydd-y-garreg a'r Blaenau) mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol yn cael eu cynnwys ar y "rhestr warchodedig" o ysgolion gwledig.
Daeth yn fwyfwy amlwg mai'r canfyddiad cyffredinol yw bod yn rhaid aberthu ysgolion bach er mwyn denu grantiau o Gronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn adeiladu neu uwchraddio ysgolion bro datganoledig gyda chyfleusterau modern. Yn ymarferol, ni roddwyd unrhyw grantiau i ysgolion bach a dywedodd swyddogion Sir Gaerfyrddin yn blwmp ac yn blaen na fyddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu gwneud. Cododd Cymdeithas yr Iaith y mater gyda’r Gweinidog Addysg newydd Jeremy Miles, ac o’r diwedd fe wnaeth e wrth-ddweud y canfyddiad hwnnw, trwy ddweud wrthym ym mis Mawrth llynedd “Gallaf gadarnhau nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi mewn ysgolion bach”.
Ym mis Hydref llynedd cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin Fforwm Agored ar y mater, a fynychwyd gan ddwsinau o gynghorwyr, llywodraethwyr, rhieni, addysgwyr ac ymgyrchwyr. Dywedodd Arweinydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price, yn gyhoeddus fod adolygiad i'r Cynllun Moderneiddio Addysg newydd ddechrau ac y byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan aelodau etholedig, sydd â meddwl agored, ac anogodd bawb i gyflwyno eu barn a’u tystiolaeth. Dyma enghraifft o lywodraethu democrataidd agored a allai osod esiampl i’r Gymru wledig gyfan.
Rydyn ni nawr yn wynebu dewis go iawn. Gall "moderneiddio" addysg barhau i fod yn ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cau cymaint o ysgolion bach â phosibl, nawr bod etholiad wedi digwydd. Ar y llaw arall, gallai hwn fod yn adolygiad gwirioneddol ddychmygus o sut y gallai moderneiddio gryfhau ac ailfywiogi cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Os ydym wir yn dymuno adfywio ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol Cymraeg eu hiaith, pa ffordd well na chael ffocws cymunedol ym mhob un, wedi’i seilio’n bennaf ar ddinasyddion yfory ac yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae gennym ni sefydliadau o'r fath yn barod - rydyn ni'n eu galw nhw'n ysgolion! Felly gallai cynllun arloesol ar gyfer moderneiddio ysgolion ehangu eu dylanwad yn hytrach na'u cau. Gellid eu defnyddio i gymathu teuluoedd sy'n symud i'n pentrefi, ac i ddysgu sgiliau newydd trwy addysg gymunedol effeithiol. Gellid gwneud hyn mewn ffordd gost-effeithiol trwy ganoli gweinyddiaeth, defnyddio gwirfoddolwyr cymunedol a thrwy addysg aml-safle o bell i wneud y niferoedd ar gyfer sesiynau a chyrsiau unigol.
Mae gennym hyd yn oed gyfleusterau "Yr Egin" yma yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer cynllun peilot ar gyfer addysg wledig integredig a datblygu cymunedol a allai fod yn ddigon arwyddocaol fely gallai'r Gymru wledig gyfan allu cyfiawnhau denu arian cyhoeddus a llacio cyfyngiadau biwrocrataidd ar y defnydd o grantiau amrywiol.
Yr unig fater sy'n weddill fyddai cyflwr rhai o'r adeiladau. Dyma lle mae’n rhaid inni sefyll ar ein traed, cymryd y Gweinidog Addysg wrth ei air a chyflwyno cais am gyllid ar gyfer to newydd i Ysgol Mynydd-y-garreg a phrosiectau tebyg. Mae’n bryd datgan, ar ôl degawdau o esgeulustod, bod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu eu cyfran deg o arian cyfalaf.
Felly ai mater o fynd drwy’r cynigion biwrocrataidd yn unig fydd yr adolygiad i foderneiddio addysg yn sir Gaerfyrddin, neu a fydd yn gyfle i ailfeddwl sut i ddatblygu ein cymunedau gwledig Cymraeg mewn ffordd radical?
Ffred Ffransis,
ar ran Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith