Sut i sefydlu Cell Leol

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

Celloedd Cymdeithas yr Iaith a sut i'w sefydlu

Beth yw cell?

Grŵp o aelodau sy’n dod at ei gilydd yn gyson i drefnu gweithgaredd o fewn eu cymuned/ardal/ysgol/coleg

Ble mae celloedd yn cyfarfod?

Mae hyn yn dibynnu ar y sefyllfa. Weithiau cewch ganiatâd i gynnal gweithgareddau mewn ysgolion/colegau ons os na, rhaid dod o hyd i rywle arall fel caffi, cefn tafarn, tŷ rhywun

Pwy sy’n mynd i gelloedd?

Mae croeso i unrhyw un ddod i gell boed hynny allan o ddiddordeb neu awydd i fod mwy gweithredol yn ymgyrchoedd Cymdeithas Yr Iaith. Mae e’n gyfle i gyfarfod pobl newydd, trafod pynciau llosg ac estyn cymorth i drefnu gigs, ralïau ac efallai gweithred. Mae bob amser eisiau pobl i ysgrifennu llythyrau hefyd.

Mae bob amser eisiau pobol mewn cell sydd ag amrywiol sgiliau fel llunio posteri ac sydd ac arbenigedd neu ddiddordeb arbennig mewn amrywiol feysydd. Yn ganolog rydym hefyd bob amser yn chwilio am sgiliau fel hyn hefyd, yn ogystal â phobol sydd yn barod i gyfieithu a chynnig cyngor cyfreithiol.

Beth ydyn ni fod i neud mewn cell?

Ar y cyfan cewch ganolbwyntio ar beth bynnag sydd yn apelio atoch chi a beth sy’n berthnasol i’ch ardal chi. Wrth gwrs, rhaid ystyried ymgyrchoedd canolog y Gymdeithas ac wedyn eu haddasu i’ch ardal.

e.e A oes stad o dai newydd ddiangen wedi ei chodi neu ar fin ei chodi yn eich ardal? Os felly gellid ysgrifennu ar y cyngor lleol yn gwrthwynebu hyn, cynnal protest lleol neu weithredu’n uniongyrchol trwy beintio slogan.

e.e A oes banc neu siop neu fusnes sydd yn gwrthod defnyddio’r Gymraeg? Os felly gellid sgwennu atynt, gwneud y ffaith yn hysbys trwy ysgrifennu at bapur lleol. Gellid hefyd drafod ymgyrchoedd canolog y Gymdeithas yn y gell.

e.e Beth am ddechrau cylchgrawn neu flog i’w rannu ymysg myfyrwyr ysgol. Gellir casglu erthyglau papur newydd, dylunio cartwns, ysgrifennu ambell erthygl ac ysgrifennu adolygiadau o gigs/cdiau yn y cylchgrawn/blog hwn.

e.e Mae bob amser angen trefnu gigs i godi arian a hybu ein bandiau Cymraeg. Mae’n gallu bod yn llawer o hwyl ac mae ‘na ddigon o bobl i estyn cymorth pe bai unrhyw broblem yn codi.

Ble mae’r gell agosaf ataf fi?

Ymwelwch â’n gwefan www.cymdeithas.cymru ac ewch i ‘Dy Ardal Di’

Ffoniwch y swyddfa ar 01970 624501

Ond sut ydw i’n sefydlu cell?

Ceisiwch ddod o hyd i un person arall gyda diddordeb, gosodwch ddyddiad eich cyfarfod cyntaf, hysbysebwch e’n dda gyda phosteri ac efallai taflenni yn esbonio beth yw Cymdeithas a beth yw cell. Penderfynwch yn fras ar Agenda (rhestr o beth hoffech chi ei drafod).

Agenda enghreifftiol

  • Presennol ac Ymddiheuridau

  • Archfarchnad newydd sydd yn dod i’r dre

  • Gorsaf radio lleol heb ddigon o Gymraeg

  • Trefnu digwyddiad codi arian

  • Syniadau hel aelodau

  • Penodi Swyddogion (yn un o’r cyfarfodydd cyntaf)

  • Unrhyw fater arall

  • Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf

 

Dyletswyddau Swyddogion

Yn un o’r cyfarfodydd cyntaf rhaid penodi swyddogion. Sdim lle i ddal nôl fan hyn, mond codwch eich braich. Mae disgwyl i bob swyddog fynychu cyfarfodydd cell neu ymddiheuro wrth swyddog arall.

Cadeirydd ac is-gadeirydd

  • Sicrhau bod y gell yn cyfarfod yn rheolaidd.

  • Sicrhau bod y swyddogion eraill yn gwireddu eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau.

  • Arwain digwyddiadau a threfn protestiadau ar ran y gell.

  • Trosglwyddo a dosbarthu dyletswyddau a sicrhau eu bod yn cael eu gwneud.

  • Gosod agenda.

  • Cadeirio cyfarfodydd, cynrychioli’r gell yn y Rhanbarth (neu holi rhywun arall i fynd).

Ysgrifennydd

  • Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd, eu teipio a’u he-bostio i weddill y gell.

  • Paratoi neu drefnu posteri a’u dosbarthu.

  • Paratoi neu drefnu datganiadau i’r wasg a’u rhyddhau.

  • Ysgrifennu neu drefnu, ac anfon unrhyw lythyrau neu e-byst ar ran y gell.

Trysorydd

  • Gydag amser gall fod angen agor cyfrif yn enw’r gell.

  • Cyfrifol am ochr ariannol y gell.

  • Dylid cydweithio yn agos gyda’r swyddog adloniant.

  • Os bydd arian yn mynd yn brin bydd angen rhoi digon o rybudd i’r Swyddog Adloniant os oes eisiau trefnu rhywbeth.

Swyddog Adloniant

  • Trefnu gig/adloniant.

  • Rhoi gwybod i’r gell am ddigwyddiadau lleol a drefnir gan y Gymdeithas a threfnu bws lle bo angen.

Cyflwyniad i Ymgyrchoedd Presennol Cymdeithas

 

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg - Dyma'r Cyfle!

  • cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn

  • atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i'w cymunedau

  • defnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r iaith naturiol o'r crud i'r bedd

Sut ydyn ni'n cyrraedd y Miliwn?

Dyma rai o'n cynigion:

 

Addysg Gymraeg i Bawb

(i) Gweithredu argymhellion allweddol adroddiad Yr Athro Sioned Davies ynghylch dileu Cymraeg Ail Iaith, dysgu'r Gymraeg gan sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg, peth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb a gosod targedau statudol eraill er mwyn gwella'r ddarpariaeth.

(ii) Ymrwymo i barhad y Coleg Cymraeg yn y tymor hir ac ymestyn ei gyfrifoldebau i addysg bellach, gan gynnwys mesurau i annog myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau drwy'r Gymraeg, megis sefydlu amod ariannol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cynnal a chynyddu'r nifer o neuaddau Cymraeg eu hiaith boed hynny drwy brifysgolion neu'r Coleg Cymraeg.

Mae ymgyrchoedd addysg y Gymdeithas yn cael eu harwain gan Toni Schiavone, cysylltwch â Toni dros ebost: toni@cymdeithas.cymru

Gweithleoedd a Gofodau Cymraeg

(iii) Cyflwyno Bil Cynllunio'r Gweithlu a fyddai sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg, gan adeiladu ar y farchnad lafur Gymraeg a arweinir gan Fentrau Iaith Cymru

(iv) Dylai unrhyw ad-drefnu Llywodraeth leol gynyddu'r nifer o awdurdodau sy'n gweithio'n fewnol drwy'r Gymraeg gan osod cymalau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau hynny.

(v) Sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol i ddiogelu asedau cymunedol allweddol ac sy'n cynnig symiau cymharol fach o arian i grwpiau cymunedol er mwyn cynnal gwasanaethau a gofodau lle mai'r Gymraeg yw prif iaith y lleoliad neu grŵp.

Hawliau i'r Gymraeg

(vi) Dylai Llywodraeth Cymru roi ei phapur gwyn gyda chynigion ar gyfer Bil y Gymraeg yn y bin a dechrau eto gan fod y Llywodraeth wedi gwrando ar gyrff a busnesau ar draul hawliau cefnogwyr y Gymraeg

Mae ymgyrchoedd hawliau y Gymdeithas yn cael eu harwain gan Heledd Llwyd, cysylltwch â Heledd dros ebost: heledd.llwyd@cymdeithas.cymru

Cymunedau Cymraeg

(vii) Cyflwyno Bil Cartrefi Fforddiadwy i Bawb a fyddai'n cynnwys nifer o fesurau i wneud y stoc tai presennol yn fforddiadwy i bobl leol, ynghyd â gwreiddio'r gyfundrefn ar anghenion lleol, gan gynnwys sefydlu'r hawl i rentu, rhoi'r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai a sefydlu mai seilio datblygiadau ar anghenion lleol ddylai fod y brif egwyddor sy'n arwain ein polisïau tai ac eiddo.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â jeff@cymdeithas.cymru

Digidol - Datganoli Darlledu i Gymru

(viii) Datganoli Darlledu i Gymru - mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus, y BBC sy’n llywio ein gorsaf radio ac mae diffyg difrifol mewn darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol. Ac mae diffyg democrataidd mawr yn y wlad oherwydd yr holl ddarlledwyr Prydeinig sy'n ein trin fel rhan o Loegr. Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae'r cyhoedd gyda ni.

Am ragor o wybodaeth am ymgyrchoedd digidol y Gymdeithas, gallech gysylltu â chadeirydd y grŵp, Aled Powell: aled.powell@cymdeithas.cymru

cymdeithas.cymru/datganolidarlledu

cymdeithas.cymru/bilygymraeg

cymdeithas.cymru/miliwn

P { margin-bottom: 0.21cm; }A:link { }