Cymunedau Cynaliadwy

Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau.  Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.

Fel Cymdeithas, credwn fod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg.  Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchad dai adlewyrchu cyflogau lleol.

Galwn am Ddeddf Eiddo a fydd yn:

  1. Sicrhau'r Hawl i Gartre'n Lleol
    Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i'w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid - a hynny o fewn pellter ac amser rhesymol
     
  2. Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol
    Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i gyd-gynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o'r sir gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal. Byddent yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg
     
  3. Grymuso Cymunedau
    Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol trwy sefydliadau a arweinir gan y gymuned. Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i waredu neu brydlesu tir ac eiddo i fentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned
     
  4. Blaenoriaethu Pobl Leol
    Creu system tai ac eiddo sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwarchod cymunedau rhag effeithiau y farchnad rydd; gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant sy'n rhoi hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai a phrynu tir ac eiddo yn unol â'r Asesiadau Cymunedol
     
  5. Rheoli'r Sector Rhentu
    Rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol
     
  6. Sicrhau Cartrefi Cynaliadwy
    Sicrhau bod y stoc dai presennol a chartrefi newydd yn fforddiadwy, yn lleihau carbon ac yn gydnaws ag anghenion cymunedol – trwy lynu at egwyddor datblygu cynaliadwy
     
  7. Buddsoddi mewn Cymunedau
    Galluogi cymnedau i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol trwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol. Hwyluso benthyciadau llog isel gan fanc cymunedol, fel Banc Cambria, ar gyfer pobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned

Darllenwch ragor am ein cynigion yma.

Credwn hefyd fod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jeff@cymdeithas.cymru

Diwallu anghenion tai pobl Cymru
Cynaladwyedd cymdeithasol ac economaidd i gymunedau Cymru trwy sicrhau cartref am bris teg
Cynaladwyedd amgylcheddol