Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad "Creu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd"

Pwyswch yma i lawrlwytho'r ymateb yn llawn

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad "Creu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd"

Tra yn croesawu’r cyfle i gyflwyno ymateb i gais am dystiolaeth ar sicrhau tai digonol sydd i fod yn sail ar gyfer Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg, nodwn ein siom dybryd a’n pryder nad oes sôn o gwbl am Ddeddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio'r farchnad tai.

Gan bod tai yn parhau i gael eu trin fel asedau masnachol i wneud elw ohonyn nhw yn hytrach nag asedau cymdeithasol i ddarparu cartref mae prisiau tai a rhent ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflog lleol, sy’n anochel yn eu gorfodi i adael eu cymuned. Mae angen mynd at wraidd y broblem honno, sef y farchnad dai agored, yn hytrach na chyfyngu at rai symptomau.

Mae’r gweithredu i leihau effaith ail dai a thai gwyliau wedi bod yn gyfyng, gan osod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i benderfynu i weithredu mesurau newydd ai peidio.

Canlyniad mwyaf tebygol cyflwyno’r mesurau newydd hyn fydd lleihau’r cynnydd yn nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai ardaloedd neu symud y broblem i ardaloedd newydd, yn hytrach nag atal ail dai a llety gwyliau.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad tai ers diwedd y saithdegau. Yn y cyfnod ers hynny mae problemau tai yn ein cymunedau wedi gwaethygu, a’r pandemig diweddar wedi amlygu’r broblem yn fwy wrth i fwy o bobl eisiau symud i ardaloedd mwy gwledig ac wrth i’r arfer o weithio o adref roi mwy o hyblygrwydd a chyfleoedd gan ac arwain at gynnydd yn nifer yr ail dai. 

Canlyniad hynny yw gorfodi pobl o’u cymuned. Mae digon o ddata am lefelau allfudo pobl ifanc sy’n rhoi darlun o’r sefyllfa. Er enghraifft yng Ngheredigion, mae data gan StatsCymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2011 a 2019 yn dangos i 22% o bobl 16-24 oed adael y sir bob blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 13.9% o bobl ifanc yn mynd i Loegr a 8.1% i rannau eraill o Gymru.
Afraid dweud, mae’n eithaf sicr bod nifer sylweddol o’r 13.9% hynny yn golled fawr i’r Gymraeg ac yn peryglu targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae allfudo yn ffactor sy’n effeithio fawr ar nifer y siaradwyr Cymraeg mewn siroedd eraill lle mae canran uchel o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Mae’r angen am Ddeddf Eiddo yn fwy nag erioed ac amser yn brin i’n cymunedau ac i’r Llywodraeth o ran amser i ddeddfu.