Beth yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg?

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.

Ydych chi erioed wedi profi anhawster wrth fynnu gwasanaeth Gymraeg?

Cael eich trin yn amharchus am drio siarad Cymraeg?

Cael trafferth cael mynedfa i addysg Gymraeg i chi neu’ch plant?

Cymdeithas o bobol yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd eisiau sicrhau cyfle cyfartal i’r iaith Gymraeg ac sy’n ymgyrchu’n bositif am hawliau i bobl Cymru i ddefnyddio’r iaith.

Yn 1962, dywedodd Saunders Lewis fod angen chwyldro er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Am bron pumdeg o flynyddoedd mae  Cymdeithas yr Iaith wedi bod ar flaen y gad yn arwain y chwyldro hwnnw.

1960au - Arwyddion Ffyrdd

1970/80au - Sianel Deledu Cymraeg

1990au -  Deddf Iaith 1993

2000au - Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd

2010 - Statws Swyddogol i'r Gymraeg drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011

2011 - Sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae gan y mudiad bolisïau blaengar ar nifer o feysydd sy’n effeithio’r Gymraeg er enghraifft Hawliau Ieithyddol, addysg, tai a chynllunio, cyfryngau.

Ond mae’r Gymraeg yn ddiogel erbyn hyn?

Mae sefyllfa’r iaith wedi cryfhau dros y blynyddoedd mae’n wir, ond mae gymaint o ffactorau fel effaith globaleiddio a dirywiad cymunedau Cymraeg yn bygwth yr iaith. Mae’r bygythiadau diweddar i S4C a diffyg ein hawdurdodau lleol i weithredu trwy’r Gymraeg yn brawf o’r angen i barhau i frwydro ac amddiffyn yr iaith a’n genedligrwydd. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau; yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, cyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.

Ond dydw i ddim yn un i brotestio...

Ond  rydych chi! Nid protestio ar y strydoedd a wnawn ni drwy’r amser. Hanfod y Gymdeithas yw gweithredu yn ôl y dull di-drais; gall hyn fod yn unrhyw beth o ysgrifennu llythyr am ddiffyg gwasanaeth Gymraeg neu gasglu llofnodion ar ddeiseb hyd at brotestio neu hyd yn oed paentio sloganau. Does neb o fewn y Gymdeithas yn cael ei gorfodi i wneud unrhyw beth a roddir y pwyslais ar annog a chynorthwyo ein haelodau i gyfranni a datblygu ei sgiliau neilltuol. Mae lobio busnesau, Cynghorau Sir a gwleidyddion yn rhywbeth sy’n digwydd drwy’r flwyddyn ac mae angen help ein haelodau i wneud hyn. Mae angen pobol sydd yn gallu ysgrifennu, darlunio, cyfathrebu, creu pethau, pobol gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron, yn wir, beth bynnag eich talentau, mae yna le i chi helpi gyda gwaith y Gymdeithas.

Beth alla i wneud?

Yn gyntaf: Ymaelodwch! Gallwch wneud hyn ar lein at cymdeithas.org/ymuno/ neu cysylltwch  gan ddefnyddio’r manylion ar y daflen yma. Nodwch pa ymgyrchoedd mae gyda chi diddordeb mewn. Ymuna a chell. Cell yw cangen leol o’r Gymdeithas. Mae yna gelloedd dros Gymru gyfan a gallwch chi ddechrau cell yn eich ardal chi yn ddigon hawdd. Does dim angen llawer o bobol i ddechrau cell a gall eich swyddog lleol cynorthwyo chi. Cofiwch, cymdeithas o bobol yw Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, hynny yw, CHI! Mae’ch  cyfraniad yn holl bwysig a gyda’n gilydd rydym yn arwain y frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg

Hawliau Ieithyddol

Yn sgil Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Ond gyda statws swyddogol mae angen  hawliau ieithyddol i’r unigolyn. Mae’r mesur iaith yn rhoi mwy o hawliau i sefydliadau i beidio â gweithredu drwy’r Gymraeg nag yw’n rhoi'r hawl i bobol Gymru defnyddio’r iaith. Nid oes unrhyw orfodaeth ar gwmnïau enfawr megis Tesco na McDonalds i ddarparu unrhyw fath o wasanaeth Gymraeg. Byddwn felly yn parhau i frwydro dros Fesur Iaith cryf sydd yn cynnwys hawliau i’r unigolyn

Addysg

Dylai fod gan bawb yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg yn lleol. Yn y maes hwn mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros:

·     Ddyfodol ysgolion pentrefol

·     Gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn colegau addysg bellach

·     Addysg gyfrwng Gymraeg lleol o’r blynyddoedd cynnar hyd at ysgol uwchradd

Cymunedau Rhydd

Mae'r Gymraeg yn edwino fel iaith gymunedol yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol. Y rheswm pennaf yw ffactorau economaidd a'r ffaith bod y farchnad dai yn aml y tu hwnt i gyrraedd bobl leol.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i basio Deddf Eiddo sydd yn cynnwys:
1. cyfarwyddiadau i Awdurdodau Lleol asesu'r angen lleol am dai a datblygu'r farchnad dai yn ol y canlyniadau.
2. sicrhau bod stoc digonol o dai fforddiadwy i'w prynu a'i rhentu
3. bod cymorth ar gael i brynwyr tro cyntaf
4. bob blaenoriaeth i bobl leol yn system bwyntiau'r cymdeithasau tai lleol
5. bod y system gynllunio yn adlewyrchu, ac yn gweithio er lles y gymuned leol
6. bod modd ailasesu caniatad cynllunio sydd wedi ei roi yn y gorffennol

Cyfryngau

Cred Cymdeithas yr Iaith bod y cyfryngau modern gan gynnwys teledu, radio a’r we yn holl bwysig i ddyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Er mwyn rhoi hygrededd i’r iaith a hyder i’w siaradwyr ymgyrchwn dros le priodol a theg i’r Gymraeg o fewn y cyfryngau yma trwy

·     Pwyso am wasanaeth Gymraeg ar orsafoedd radio lleol

·     Sicrhau annibyniaeth a chyllido teg  i’n sianel teledu Cymraeg

·     Ymgyrchu’n frwd er mwyn sicrhau presenoldeb cryf ar y we

Cysylltwch nawr ac ymunwch a’r chwyldro!

post@cymdeithas.cymru

Dolenni Hanes

Sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - owainowain.net - Fe welir yma nifer o'r ymgyrchoedd a ddyfeisiwyd gan Owain Owain, 'y strategaethwr cywrain a gofalus'. Ffei i'r neb a gredodd mai haid o fyfyrwyr hirwalltog oedd y tu cefn i'r mudiad!

Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith - llgc.org.uk - Gwybodaeth, Lluniau, Copiau o daflenni a phamffledi a fideo oddi ar wefan y Llyfyrgell Genedlaethol.

Cymdeithas yr Iaith, Deiseb yr Iaith, Addysg - llgc.org.uk - Gwybodaeth, Lluniau, Copiau o daflenni a phamffledi oddi ar wefan y Llyfyrgell Genedlaethol.

Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1963 - gtj.org.uk - Casgliad o 55 o luniau a dynnwyd gan Geoff Charles ym mis Chwefror 1963, ar achlysur protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan, Aberystwyth oddi ar wefan Casglu'r Tlysau.

1955, 1967, 1970, Cymdeithas yr Iaith - bbc.co.uk - Clip Fideo o 'Tynged yr Iaith' darlledwyd yn gyntaf 15/02/1987.

1967, 1968, 1969, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg and Saunders Lewis - bbc.co.uk - From The Sixties first broadcast 26/12/1969.

Cymdeithas yr Iaith - cy.wikipedia.org - Hanes Cymdeithas yr Iaith oddi ar wefan Wicipedia.

Cymdeithas yr Iaith 1960au & 70au - flickr.com - Lluniau a delweddau o ddyddiau cynnar frwydr yr iaith gan 'ugain_i_un'.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, archif - rhwydwaitharchifaucymru.info - Manylion Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1967-1998 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Gomisiwn Richard - comisiwnrichard.gov.uk - Cofnodion y tystiolaeth a roddwyd i Gomisiwn Richard gan Gymdeithas yr Iaith.

Deddf Eiddo – Tai, Cynllunio a’r Iaith Gymraeg - cynulliadcymru.org - Cyflwyniad Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Ymgynghoriad Cymru Ar-lein - broadband.cymru.gov.uk

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - tylwythteg.com