Powys

Falch o gyfle i ddathlu Eisteddfod - her i gyngor Powys

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin am fabwysiadu strategaeth iaith flaengar a all cryfhau’r Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod yn dilyn yr Eisteddfod yn y sir.

Wedi gohirio - Cyfarfod Cell Powys

01/07/2014 - 19:00

Yn anffodus rydyn ni'n gohirio'r cyfarfod, byddwn ni'n ail-drefnu ar gyfer Gorffennaf. Mwy o wybodaeth: post@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Rhanbarth Powys

03/06/2014 - 19:00

Cyfarfod Rhanbarth Powys - Clwb Rygbi Meifod

Dere i gyfrannu at ein hymgyrchoedd i Gymreigio Cyngor Powys ac i glywed mwy am ymgyrchoedd cenedlaethol y Gymdeithas

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu rhannu ceir o wahanol ardaloedd cysylltwch gyda Bethan - bethan@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Cell Powys

29/04/2014 - 19:00
Gydag Eisteddfod Genedlaethol 2015 ym Meifod ar y gorwel, a bod digon angen ei wneud yn y sir, mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld cyfle i sbarduno gweithgarwch yn ardal yr Eisteddfod ac ardal Maldwyn.
 

‘Gwleidyddiaeth y pethau bychain’ i ymateb i argyfwng y Gymraeg

Daeth ymgyrchwyr iaith o bob rhan o Gymru ynghyd ym Mhowys ddydd Sadwrn lle trafodon nhw ffyrdd i ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.

Buddugoliaeth Ysgol Carno - gobaith i gymunedau eraill

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu argymhelliad gan bennaeth addysg Cyngor Powys i gadw Ysgol Carno ar agor fel rhan o’i chynlluniau ad-drefnu addysg.

Rali Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol 2013

05/10/2013 - 10:30

Canolfan Gymunedol Carno, 5ed Hydref 2013

Siaradwyr: Emyr Llew, Toni Schiavone, Dafydd Morgan Lewis

Rhanbarth Powys

Cadeirydd: i'w benodi

Mae gan Gymdeithas yr Iaith gangen weithgar ym Maldwyn – croeso i chi ymuno yn y gwaith wrth i ni:

  • ymgyrchu i ddiogelu addysg cyfrwng-Gymraeg y rhanbarth
  • pwyso ar Gyngor Sir Powys i weithredu er lles y Gymraeg
  • trefnu gigs a digwyddiadau eraill.

A llawer mwy!

Digwyddiadau Powys