Byw yn Gymraeg? Diffygion y System Gynllunio

Blwyddyn yn ôl cyhoeddwyd ystadegau'r cyfrifiad am y Gymraeg. O'r holl ystadegau a gafwyd ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol ac ar lefel gymuned yr ystadegau mwyaf trawiadol yn fy marn i, oedd y cyhoeddiad am y nifer o gymunedau Cymraeg. Mae'r nifer o gymunedau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng o 92 yn 1991, i 54 yn 2001, ac i 39 yn 2011. Un canlyniad yw bod canran o siaradwyr Cymraeg wedi disgyn o dan 50% yng Ngheredigion ac i 43.9% yn Sir Gaerfyrddin. Os nad yw hyn yn fater o bryder beth sydd.

Ymateb nifer o sylwebyddion ac academwyr oedd i roi'r pwyslais ar yr ochr cadarnhaol ac ar y cynnydd yn statws a lle'r Gymraeg yn gyhoeddus. Digon hawdd dweud bod angen i ni fod yn llai besimistaidd am y Gymraeg ac i fwynhau byw yn y Gymraeg ond y realiti yw bod llai a llai ohonom yn medru byw yn y Gymraeg oddifewn i'n cymunedau. Yr oblygiadau tymor hir yw bydd y Gymraeg yn iaith sefydliad, cyfrwng a digwyddiad ond nid yn iaith cymunedol. Mae hyn eisoes wedi digwydd ar draws rhannuau helaeth o Gymru. Dangosodd ymchwil rhyngwladol ar ddiflaniad ieithoedd llai ar draws y byd bod gafael iaith ar dirogaeth penodol yn angenrheidiol  i barhad ac i ddatblygiad iaith fel iaith byw. Oni bai ein bod ni yng Nghymru yn cydnabod gwir natur yr her sydd yn gwynebu'r Gymraeg, ni fyddwn yn chwilio am yr atebion. Nid oes unrhwybeth yn dangos hyn yn gliriach na'r gwastraff amser ac arian ar drafod dyfodol yr Eisteddfod yn hytrach nag edrych ar effaith mewnfudo ac alludo, ac effaith penderfyniadau cynllunio a chynllunio econonmaidd, neu diffyg hynny, ar y Gymraeg.


Hir bu'r disgwyl am ganllawiau ar Gynllunio a'r Gymraeg – daeth yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymrun i ben mor bell yn ôl â mis Mawrth 2011. Yn y gwanwyn y flwyddyn diwethaf (2013) penderfynwyd oedi unwaith eto cyn cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 i roi cyfle i bobl Cymru mynegi barn am ddyfodol y Gymraeg yn y 'Gynhadledd Fawr' ac mewn ffyrdd eraill.

Ym mis Hydref  2013  cyhoeddwyd NCT(TAN) 20 ac wrth gyflwyno'r canllawiau roedd Carl Sargeant, Gweindog Tai ac Adfywio, yn cydnabod y gall y system gynllunio cael dylanwad ar amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n effeithio'r Gymareg. Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol “sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig” ystyried y Gymraeg (dim ond ystyried) fel rhan o'u Cynlluniau Datblygu Lleol(CDLL) yn y  dyfodol – ond nid felly y rhai a gyhoeddodd eu CDLL cyn yr Hydref. Yn waeth na hynny mae'n ddibynnol ar awdurdodau yn nodi bod yr iaith Gymraeg yn bwysig a hyd yn oed wedyn dim ond ”lle bo hynny'n ymarferol ac yn berthnasol.” Dim ond yr awdurdodau yma bydd yn gorfod ymgynghori â'r Comisynydd Iaith wrth baratoi ac adolygu'r Cynlluniau Datblygu Lleol.  Os nad yw awdurdod yn nodi bod diogelu neu hybu'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau'r awdurdod lleol, ni fydd angen iddynt ystyried effaith y polisiau datblygu a defnydd tir ar y Gymraeg.

Cred Cymdeithas yr Iaith dylai dyfodol y Gymraeg bod yn un o flaenoriaethau pob awdurdod yng Nghymru a bod hyn ynghlwm wrth unrhyw gynllun datblygu cynaliadwy. Rhaid i newidiadau i'r gyfundrefn tai a chynllunio cynnig atebion Cymru-gyfan yn hytrach nag un sydd dim ond yn amddiffynol ynglŷn â'r Gymraeg. Ni fydd yr arweinaid pellach ar gynllunio a'r iaith Gymraeg bwrieidir ei gyhoeddi yn cyflawni dim oni bai bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddant yn rhoi grym statudol i'r canllawau trwy'r Mesur Cynllunio ac onibai yr atgyfnerthir hyn yn y Mesur Datblygu Cynaliadwy. Rhaid i'r naill Mesur a'r llall cyfeirio yn uniongyrchol at y Gymraeg. Fel arall bydd awdurdodau lleol yn anwybyddu'r Gymraeg ym maes tai, cynllunio a chynllunio economiadd - fel sydd eisoes yn digwydd.

Roedd gan awdurdodau lleol y grym a'r gallu i gynnal adolygiad manwl mesul cymuned ar sefyllfa'r Gymraeg ers y cyhoeddiad gan y Swyddfa Gymraeg yn 1988. Nodwyd pryd hynny y dylid rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg ym maes cynllunio. Fodd bynnag, nid oes yr un Awdurdod Lleol, gan gynnwys Gwynedd, wedi paratoi Adroddiad Pwnc manwl ar sefyllfa'r Gymraeg. Yn ddiweddar cyhoeddodd yr Arolygwr Cynllunio ei fod yn rhoi caniatad cynllunio i faes carafannau ger Chwilog ym Mhenllyn i fod yn agored trwy'r flwyddyn yn groes i ddymuniad Cyngor Gwynedd. Pryder y Cyngor oedd y byddai hyn yn troi cartrefi gwyliau yn gartrefi barhaol ac y byddai hyn yn andwyol i'r Gymraeg yn yr ardal. Nododd yr Arolygwr bod yr adroddiad iaith a gyflwynwyd gan y Cyngor yn annigonol. Ar y sail yma – y diffyg tystiolaeth o effaith – daeth yr Arolygwr i'r penderfyniad. Dylid sicrhau bod y  Mesur Cynllunio arfaethedig yn mynnu bod pob Awdurdod Lleol yn mynd ati yn ddiymdroi lunio dadansoddiad manwl ar y Gymraeg a dylid defnyddio hyn fel sylfaen i ymateb i geisiadau cynllunio ac i adolygu a datblygu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Gwelwyd eisoes pa mor anfodlon y mae'r Awdurdodau Lleol i fynnu asesiad iaith cyn rhoi caniatad cynllunio i ddatblygiadau tai. Yn y drefn bresennol y darpar-ddatblygwr sydd â'r cyfrifoldeb o baratoi asesiad iaith, os y dymunir hyn gan yr Awdurdod Lleol.  Mae hyn yn hollol annerbyniol. Lle'r Awdurdod yw cynnal yr asesiad iaith a dylid sicrhau hyn ar  gyfer pob datblygiad sydd yn cynyddu'r canran o dai mewn ardal mwy na 5%, neu ffigwr tebyg,  o dai. Byddai hyn gymaint yn haws petae gan yr Awdurdod adroddiad pwnc ar y Gymraeg fel man cychwyn a hyn yn seiliedig ar bolisi tai a chynllunio sydd yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y gymuned leol. Lle Awdurdodau Lleol yw gwasanaethu pobl a chymunedau oddifewn i'r awdurdod yn y lle cyntaf. Lle Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod hyn yn digwydd trwy osod y gofyn yma oddifewn i fframwaith statudol.

Atgyfnerthwyd dadl Cymdeithas yr iaith gan y rhai a fynychodd y Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf 2013. Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymarferiad ymgynghori yn mis Tachwedd 2013 ac yn y crynodeb nodir yn glir  bod rhaid “rhoi mwy sylw i rai agweddau creiddiol”, sef:

  • ymateb i'r her a osodir i ddyfodol y Gymraeg gan symudoledd poblogaeth (sef mewnfudo ac allfudo)
  • yr angen i hwyluso a chefnogi pobl leol yn eu hymdrechion i brynu tai fforddiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd i gael blaenoriaeth wrth bennu deiliadaethau tai cymdeithasol
  • sefydlu Arolygaeth Gynllunio Gymreig fyddai yn rhoi’r galw lleol am dai o flaen gofynion datblygwyr
  • datblyu gwell dealltwriaeth o'r cyswllt rhwng iaith a'r economi a gweithredu ar sail hynny
  • marchnata gwerth y Gymraeg i bobl Cymru.

Roedd consenws barn cryf ymysg y cynhadleddwyr o blaid hyn. Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru, ac yn benodol Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones  dangos arweiniad. Mae'r amser ar gyfer cymryd camau bach i ddiwygio system cynllunio sydd wedi methu cymunedau Cymraeg wedi hen fynd.  Rhaid cael atebion radical, pellgyrhaeddol. Meddyliwch beth fyddai effaith cyhoeddi'r bwriad i glustnodi 6-10 o ardaloedd datblygu ar draws Cymru i ddiogelu, datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg gyda cyllideb teilwng ar gyfer y gwaith.  Fel arall ymhen ugain mlynedd llond dwrn o gymunedau Cymraeg fydd ar ôl a bydd byw yn y Gymraeg yn perthyn i'r gorffennol. Mae'r Maniffesto Byw diwygiedig a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith  yn amlinellu deg o flaenoriaethau ym maes tai a chynllunio a byddwn yn ymgyrchu ym mhob ffordd posibl i gael y maen i'r wal gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Cymru.

Toni Schiavone yw cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
(ysgrifennwyd yr erthygl hon ar gyfer y cylchgrawn Barn cyn cyhoeddiad y Mesur Cynllunio Drafft)