Lansiad dogfen sy'n amlinellu gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar gyfer y Gymraeg o dan Lywodraeth nesaf Cymru.
Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 ymlaen
12:30pm, Dydd Mawrth, 14eg Gorffennaf
Ystafell Briffio'r Cyfryngau, Y Senedd
Noddir y digwyddiad gan Keith Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Gymraeg.
Bydd y ddogfen weledigaeth yn cynnig syniadau polisi er mwyn cyrraedd 3 nod y byddwn yn galw ar holl bleidiau'r Cynulliad anelu atynt:
(i) cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn dros amser
(ii) atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i'r wlad
(iii) defnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r iaith naturiol o'r crud i'r bedd
Gobeithiwn y bydd modd i chi ddod i'r lansiad er mwyn cael copi o'r ddogfen a thrafod syniadau gyda swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Er mwyn sicrhau eich lle yn y digwyddiad, ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch colin@cymdeithas.cymru