Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Siaradwyr: Sian Howys, Doug Jones - Undeb y Gwasnaethau Cyhoeddus a Masanachol (PCS), Carys Moseley ac eraill
Yng Ngwynedd, mae ‘Her Gwynedd’ – sydd yn holi pa doriadau sydd angen eu gwneud, wedi ysbrydoli ymgyrch 'Heriwch y Torïaid, nid Pobl Gwynedd'.
Yng Nghaerdydd mae ymgyrch fawr i arbed llyfrgell y ddinas wedi tynnu mudiadau gwrth-lymder a gwleidyddol at ei gilydd.
Yng Ngheredigion mae’r cyngor yn holi pa wasanaethau byddai'n well gan bobl dorri arnyn nhw.
Yng Nghaerfyrddin mae’r cyngor wedi penderfynu torri ar wasanaethau Cymraeg a chymunedol dros y blynyddoedd nesaf.
Dewch i drafod, clywed beth sydd yn digwydd mewn ardaloedd eraill a rhannu syniadau er mwyn gwrthwynebu toriadau a diogelu gwasanaethau hanfodol.
Mwy o wybodaeth – 01970 624501 / post@cymdeithas.org
Bydd cyfarfod Cyngor Cymdeithas yr Iaith o 10yb ymlaen