Bil Cymru Drafft - Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Bil Cymru Drafft - Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1.Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yymgyrchu’n ddi-drais dros y Gymraeg ers hanner can mlynedd, fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid. Rydym fel mudiad wedi cefnogi datganoli ers degawdau ac wedi rhoi cefnogaeth lawn i sicrhau rhagor o bwerau i'n Cynulliad Cenedlaethol.  

1.2Mewn dau refferendwm, mae pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid rhoi pwerau i'n Cynulliad weithredu dros y Gymraeg. Yn 2011, fe bleidleisiom o blaid rhoi pwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i'n Cynulliad Cenedlaethol, a hynny heb orfod cael caniatâd Senedd neu Lywodraeth San Steffan.  

1.3Nid ydym fel mudiad wedi cael cyfle, o fewn amserlen dynn y pwyllgor, i geisio cyngor cyfreithiol manwl ynghylch effaith posibl y newidiadau i gyfansoddiad y wlad a gynigir drwy'r Bil Cymru diweddaraf yn ei ffurf drafft. Fodd bynnag, mae nifer o bryderon a chwestiynau o bwys yn codi wrth edrych ar ddadansoddiadau eraill ynghylch yr effaith bosib, a'r ansicrwydd, y gallai'r Bil drafft yn ei ffurf presennol ei greu. Hoffem bwysleisio yn ogystal mai sylwadau cychwynnol yn unig yw'r hyn sy'n dilyn.  

2.Casgliadau: Bil Cymru yn golygu colli pwerau dros yr iaith a chreu cyfundrefn lai eglur 

2.1. Yn ein barn ni, o dan y setliad newydd, bydd pwerau'r Cynulliad i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg yn llai eglur nag y maen nhw o dan y setliad presennol. Mae'n debygol hefyd y bydd gan y Cynulliad lai o bwerau i ddeddfu dros yr iaith nag o dan y setliad presennol.  

2.2. Credwn ei bod yn deg dweud bod deddfwriaeth iaith yng Nghymru yn fwy datblygedig nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac felly nid yw eu cyfundrefnau hwythau o bwerau 'wedi'u cadw yn ôl' yn addas i anghenion y Gymraegmater sy'n mynd ar draws nifer o faterion mae'r Bil yn argymell eu 'cadw yn ôl'  

2.3. Ymysg ein prif bryderon am y Bil mae'r materion canlynol: 

  • diffyg eglurder ynghylch a fydd modd deddfu am y Gymraeg yn y sectorau preifat ac mewn cyrff Prydeinig wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 

  • diffyg eglurder am allu'r Cynulliad i greu hawliau clir a chyson i'r Gymraeg i'n dinasyddion ym mha sector bynnag maen nhw'n defnyddio'r iaith 

  • methiant i ddatganoli pwerau dros ddatganoli i Gymru   

2.4. Awgrymwn felly y dylid ystyried creu eithriad cyffredinol i'r Gymraeg o'r materion sydd wedi eu cadw yn ôl a fyddai'n caniatáu i'r Cynulliad ddeddfu ym maes y Gymraeg gan fod y cyfyngiadau 'yn ymwneud â' ('relates to') ac eraill yn yr adran 108A newydd a awgrymir yng nghymal 3 o'r Bil drafft, ynghyd â'r cymalau cadw pwerau yn ôl, megis y rhai ynghylch telathrebu, y we, banciau a phost, yn creu mwy o ansicrwydd na'r sefyllfa gyfansoddiadol bresennol.  Nodwn yn ogystal y pryderon a leisiwyd gan Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch cadw pwerau dros gydraddoldebau yn ôl 

3.Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 - ystyriaethau  

3.1. Cymhlethdodau yn deillio o'r gyfundrefn Gorchymyn Cydsyniad Deddfwriaethol (LCO) 

3.1.1. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ddeddfwriaeth fwy cymhleth nag y dylai fod yn rhannol oherwydd aneglurder cyfansoddiadol a ddeillia o'r setliad cyn y refferendwm diwethaf. Gosodwyd nifer o gyfyngiadau, drwy'r gyfundrefn Gorchymyn Cydsyniad Deddfwriaethol (LCO), a arweiniodd at Fesur sy'n anos ei weithredu na'r hyn fyddai'n ddymunol. Oherwydd dymuniad Llywodraeth Cymru i greu hawliau iaith yn y sector preifat, crëwyd cyfundrefn gymhleth o apeliadau ac atodlenni i ymdrin â chyfyngiadau yn y Gorchymyn Cydsyniad Deddfwriaethol (LCO)   

3.1.2. Felly, mae gennym eisoes ddeddfwriaeth iaith sy'n llawer rhy gymhleth ac yn creu anhawster i gyrff megis Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, ac yn bwysicach, a fydd yn creu anhawster i bobl ddeall eu hawliau i'r iaith,  yn rhannol oherwydd cymhlethdodau hynny.   

3.1.3. Credwn fod nifer o'r problemau cyfansoddiadol hynny, yng nghyswllt yr iaith Gymraeg, wedi eu goresgyn oherwydd y pwerau deddfu newydd a ddaeth i rym yn sgil refferendwm 2011. Fodd bynnag, mae'r Bil Cymru drafft  yn sicr yn peri posibiliad cryf y bydd llai o bwerau gan y Cynulliad wrth edrych ar ddiwygio'r Mesur. Gallai hynny arwain at sefyllfa hyd yn oed yn fwy cymhleth, lle byddai modd diwygio'r gyfraith ynghylch rhai o'r materion deddfwyd arnynt yn y Mesur yn 2011, ond ddim ynghylch materion eraill megis telathrebu oherwydd y cyfyngiadau helaethach yn yr Atodlen 7A newydd.   

3.2. Problemau gweithredu Mesur y Gymraeg a Chydsyniad Ysgrifennydd Cymru  

3.2.1. O dan adran 43(2) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae angen cydsyniad Ysgrifennydd Cymru cyn gosod Safonau'r Gymraeg ar gyrff y GoronBum mlynedd wedi pasio'r Mesur, ac er gwaethaf sawl cais gan Gomisiynydd y Gymraeg, nid oes cysyniad wedi ei roi i'r Safonau ddod yn weithredol ar gyrff y Goron. Mae hynny'n golygu y bydd dwy gyfundrefn reoleiddio wahanol yn cyd-redeg, gan achosi pob math o gymhlethdod a dryswch. Er enghraifft, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dod o dan fframwaith y Safonau ond bydd y llysoedd yn parhau o dan hen gyfundrefn y cynlluniau iaith a sefydlwyd o dan Ddeddf Iaith 1993.   

3.2.2. Credwn mai dim ond gwaethygu'r sefyllfa y bydd y darpariaethau ynghylch derbyn cydsyniad yn Atodlen 7B(8) y Bil drafft, gan y bydd angen sicrhau cydsyniad ar gyfer nid yn unig cyrff y Goron, ond unrhyw 'awdurdod cadwedig'. Wrth edrych ar ddiwygio Mesur y Gymraeg er mwyn datrys nifer o'r problemau sy'n deillio o'r llanast cyfansoddiadol a gafwyd o dan y gyfundrefn LCO, gallai pethau waethygu ymhellach o dan y Bil drafft hwn.  

3.3. Ymestyn hawliau i'r Gymraeg a'r Safonau i sectorau preifat eraill 

3.3.1. Credwn fod cyfuniad darpariaethau yr adran 108A newydd ynghyd â'r pwerau cadw yn yr atodlenni 7A a 7B newydd yn debygol o atal y Cynulliad rhag ymestyn y gyfundrefn o hawliau i'r Gymraeg i sectorau preifat eraillEin dealltwriaeth ni o'r sefyllfa gyfansoddiadol bresennol yw bod modd i'r Cynulliad ymestyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i sectorau megis banciau ac archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai ansicrwydd a fyddai hynny'n bosibl o dan ddarpariaethau'r Bil drafft. Byddai hynny'n golygu cam sylweddol yn ôl. 

4. Cymhlethdodau Cadw Cyfraith Breifat a Chyfraith Drosedd yn ôl  

4.1. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu system orfodaeth sy'n caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ddirwyo cyrff sy'n tramgwyddo ar hawliau iaith dinasyddion. Cosbau sifil yw'r rhain. Yn ôl ein dealltwriaeth ni o'r Bil drafft, ni fyddai modd deddfu eto i greu neu gryfhau'r pwerau cosbi hynac y byddai modd dadlau nad ydyn nhw'n angenrheidiol gan y gellid dilyn cyfundrefn lai pwerus o orfodaeth er i hynny brofi'n aneffeithiol o ran gwella gwasanaethau Cymraeg yn y gorffennol.  

5. Datganoli Darlledu 

5.1. Gresynwn nad yw'r Bil yn datganoli pwerau dros ddarlledu, serch cymal 29 o'r Bil ynghylch y Swyddfa Cyfathrebiadau. Dangosodd arolwg barn a gomisiynwyd gan Gomisiwn Silk bod mwyafrif pobl Cymru am ddatganoli darlledu i Gymru. Cyflwynom ddadl gerbron Comisiwn Silk dros ddatganoli darlledu; gellir ei darllen yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/comisiwn-silk-rhan-ii-ein-hymateb   

6. Casgliadau 

6.1. Hoffem bwysleisio eto mai sylwadau cychwynnol ar gynigion y Bil drafft yw'r uchod. Fodd bynnag, o'n golwg cyntaf ar y Bil drafft, credwn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig, fan leiaf, yn mynd i greu ansicrwydd sylweddol ynghylch pwerau'r Cynulliad i ddeddfu ym maes y Gymraeg. Yn wir, credwn ei bod yn debygol y bydd llai o bwerau deddfu dros y Gymraeg gan y Cynulliad o dan y setliad a amlinellir yn y Bil drafft.  

6.2. Felly, byddem felly yn gadarn ein gwrthwynebiad i basio'r Bil fel y mae. Mae'r ymdrech sydd ei hangen i sicrhau dyfodol y Gymraeg fel priod iaith lewyrchus yng Nghymru yn gofyn am ryddid sylweddol i'w deddfwrfa genedlaethol allu deddfu ar draws ystod o faterion heb gael eu llethu gan ddiffyg eglurder a chyfyngiadau diangen ar ei gallu i weithredu. 

6.3. Credwn y dylai'r pwyllgor holi Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y pwyntiau a godir gennym uchod.  

6.4Ymhellach, dylid rhoi ystyriaeth i greu eithriad cyffredinol i'r rhestr o bwerau wedi'u cadw yn ôl ar gyfer yr iaith Gymraeg fel nad yw pwerau deddfu presennol y Cynulliad Cenedlaethol ym maes y Gymraeg yn cael eu colli.  

 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Tachwedd 2015