Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru 2016-17 - Diffyg Buddsoddi yn y Gymraeg

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru - Diffyg Buddsoddi yn y Gymraeg 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1.Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu ers hanner canrif mwy dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.  

2.Crynodeb 

2.1. Collfarnwn yn llwyr y toriad arfaethedig o 5.9% yn nhermau arian parod i'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, sy'n digwydd er gwaetha'r cynnydd £120 miliwn i refeniw Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae'r toriadau yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a dogfen polisi "Bwrw Mlaen" y Llywodraeth. Yn benodol, mae'r toriadau sylweddol i Fentrau Iaith Cymru, fel mudiad cenedlaethol, yn ymddangos yn gwbl anghyson gyda chyhoeddiad "Bwrw Mlaen" Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014. 

2.2. Nid oes tystiolaeth bod y Llywodraeth wedi ceisio cynyddu'r ganran o gyllidebau prif-ffrwd a warir drwy'r Gymraeg. Mae dargyfeirio swm o'r gwariant cymunedau i geisio gwneud yn iawn am doriadau i'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg dim ond yn tanlinellu'r ffaith nad oes ymdrech o gwbl asesu'n fanwl effaith cyllidebau eraill ar y Gymraeg. Felly, ar hyn o bryd, mae arian prif-ffrwd yn parhau i gynrychioli buddsoddiad yn y Saesneg i raddau helaeth iawn. 

2.3. Mae toriadau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn peri pryder mawr am doriadau sylweddol i gyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny'n groes i eiriau'r Prif Weinidog i ni ei fod "moyn gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".  

2.4. Mae toriadau pellach o oddeutu 10% i Gomisiynydd y Gymraeg yn golygu nad oes arian er mwyn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth o'r hawliau iaith newydd (Safonau'r Gymraeg) a fydd yn dechrau dod i rym o 30ain Mawrth eleni - y newid mwyaf i hawliau iaith pobl ers dros 20 mlynedd.  

3Cyllideb ar gyfer Hyrwyddo'r Gymraeg 

3.1. Toriadau Annheg 

3.1.1. Rydym yn collfarnu'n llwyr y toriadau arfaethedig i'r prosiectau penodol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg. 

3.1.2. Mae cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn codi o £120 miliwn, o £14.094 biliwn i £14.257 biliwn, ond mae toriad o 5.9yn nhermau arian parod i'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg. Ac mae hynny wedi cynnwys "£1.2m yn 2016-17 fel cam i liniaru effeithiau’r gostyngiadau cyllido"Mae dargyfeirio o gyllideb arall yn codi cwestiwn pwysig arall, sef a fydd y £1.2 miliwn hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r waelodlin flwyddyn nesaf ar gyfer cyllideb hyrwyddo'r Gymraeg ai peidio?   

3.1.3. Eisoes, mae'r ganran o wariant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n ymwneud yn benodol â'r Gymraeg yn bitw iawn - dim ond 0.16% o holl wariant y Llywodraeth. Mae hynny'n cymharu'n anffafriol iawn gyda gwlad fel Gwlad Basg lle buddsoddir cyfran bron saith gwaith yn fwy o'u cyllideb yn benodol ar yr iaith o'i gymharu â'r sefyllfa yma (£84 miliwn o gyllideb ranbarthol 2014). 

3.2. Tanseilio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

3.2.1. Credwn fod y gyllideb drafft yn gwbl groes i ddyletswyddau'r Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gan ei bod, yn hytrach na sicrhau ffyniant y Gymraeg, yn mynd i'w thanseilio. Ymddengys mai geiriau gwag ydy'r nodau llesiant. Os nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru yn cadw at egwyddorion y Ddeddf, pa obaith sydd gennym o weld cyrff eraill yn ei dilyn? Mae'r Ddeddf newydd wedi methu ei phrawf cyntaf. 

3.2.2. Yn ogystal â thanseilio nod llesiant ffyniant y Gymraeg, credwn fod y gyllideb yn groes i egwyddor datblygu cynaliadwy, gan ei bod yn fyrbwyll ac yn groes i amcanion tymor hirach y Llywodraeth - un enghraifft o hynny yw'r toriadau i Fentrau Iaith Cymru. 

3.3. Tanseilio Strategaeth Iaith y Llywodraeth a'r polisi "Bwrw Mlaen"  

3.3.1. Credwn fod y gyllideb yn groes i strategaeth 3 blynedd y Llywodraeth "Bwrw 'Mlaen" a gafodd ei gyhoeddi ym mis Awst 2014Dywedodd y strategaeth y byddai'r Llywodraeth yn"buddsoddi £1.2 miliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf (a fydd yn cynnwys £750,000 ar gyfer y Mentrau Iaith)". 

3.3.2. Er gwaethaf yr ymrwymiad hwnnw, rydym ar ddeall bod Mentrau Iaith Cymru, fel corff cenedlaethol, yn wynebu toriad o oddeutu 40%. Mae hyn yn codi cwestiynau mawr am strategaeth hir dymor y Llywodraeth, ac eto'n pwysleisio'r angen am ymrwymiad tymor hir i glustnodi canran benodol o'r gyllideb ar gyfer prosiectau i hyrwyddo'r Gymraeg. 

4. Sefydliadau Eraill o bwys arbennig i'r Gymraeg 

4.1. Hoffem dynnu sylw at achos 3 sefydliad penodol 

4.2. Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

4.2.1. Rydym yn falch iawn y buodd y Prif Weinidog yn gwbl glir yn ei gyfarfod diweddar gyda ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r Coleg Cymraeg a ''moyn gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".  Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ei ddymuniad i waith y Coleg dyfu, mae angen sicrwydd am ei gyllideb. 

4.2.2. Yn ôl y gyllideb drafft bydd toriadau anferthol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sydd, ar hyn o bryd, yn dosrannu'r grant i'r Coleg Cymraeg. Mae hynny'n codi cwestiynau difrifol am gyllideb y Coleg. 

4.2.3. Rydym wedi gofyn am y canlynol: 

1) Cyllido Uniongyrchol 

Fod y llywodraeth yn gosod targedau rhesymol ond cynyddol o ran cyfran myfyrwyr addysg uwch sy'n dilyn cyrsiau'n Gymraeg ac yn rhoi cyllid i'r Coleg yn uniongyrchol (yn hytrach na thrwy gorff arall) i'w alluogi i gyrraedd y targedau hyn. 

2) Estyn egwyddor addysg gyfun 

Fod y llywodraeth yn rhoi i'r Coleg gyfrifoldeb dros ddatblygu addysg "bellach" gyfrwng Cymraeg yn ogystal ag addysg uwch. Bydd hyn yn galluogi'r Coleg i ddatblygu cyrsiau cyffrous newydd, ac agored i bawb, er mwyn sicrhau gweithlu addas i wasanaethu cyrff cyhoeddus Cymru. Gellir ychwanegu at hyn gyfrifoldebau dros hyfforddiant athrawon. 

3) Cyfran deg o arian ymchwil 

Ar hyn o bryd does fawr ddim arian ymchwil yn mynd tuag at waith cyfrwng Cymraeg. Dylai'r Coleg weinyddu cyfran deg o'r arian, gan weithio ar rai prosiectau a allent gryfhau Cymru'n economaidd ac yn ddiwylliannol. 

4.3. Y Cyngor Llyfrau 

4.3.1. Mae Cyngor Llyfrau yn gwneud llawer iawn i gefnogi'r diwylliant cyhoeddi Cymraeg yng Nghymru. Ond mae'r Llywodraeth wedi cynnig toriadau o 10.6% yn ei gyllideb y flwyddyn nesaf, sef toriad o £374,000, i'w gyllideb. Credwn fod hyn yn enghraifft o effaith negyddol anghymesur y gyllideb ar y Gymraeg. 

4.4. Comisiynydd y Gymraeg 

4.4.1. Rydym ar ddeall y bydd y Comisiynydd yn wynebu toriad o oddeutu 10% ar ben toriad o oddeutu 8% y llynedd. 

4.4.2. Mae'r Comisiynydd wedi dweud wrthym na fydd arian i redeg ymgyrch gyhoeddusrwydd am Safonau'r Gymraeg a fydd yn dechrau dod i rym o 30ain Mawrth eleni - y newid mwyaf i hawliau iaith pobl ers dros 20 mlynedd. 

4.4.3. Rydym ar ddeall y gwariwyd oddeutu can mil o bunnau ar brosiect "y Gymru a Garem" ynghylch y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol cyn iddo gael ei basio – pam nad oes arian tebyg ar gyfer deddfwriaeth iaith wedi iddi gael ei basio? 

4.4.4. Credwn y dylid sefydlu annibyniaeth ariannol i Gomisiynydd y Gymraeg, drwy ei hariannu yn yr un modd â’r Archwilydd Cyffredinol, gyda’r arian yn dod yn uniongyrchol fel canran o’r grant bloc. 

5.Cyllidebau Eraill - Tanfuddsoddi a diffyg strategaeth 

5.1. Mae camddealltwriaeth difrifol ynghylch gwariant ar y Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae tanwariant difrifol ar y Gymraeg yng nghyllidebau prif ffrwd y Llywodraeth. Ni welir gwariant ar y Saesneg fel cost, ond ystyrir gwariant ar wasanaethau Cymraeg fel cost ychwanegol. Dylid comisiynu Comisiynydd y Gymraeg i wneud asesiad annibynnol o effaith iaith holl wariant ar draws holl adrannau’r Llywodraeth. 

5.2. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio awgrymu ei bod yn gwneud hynny eisoes, ond mewn gwirionedd, dywed naratif y gyllideb:  "Wrth gydnabod swyddogaeth bwysig ysgolion o ran sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i ysgolion, sydd wedi’i dargedu’n bennaf at ariannu ysgolion ar y rheng flaen, ac a fydd yn effeithio’n gyfartal ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog." 

5.3. Ar un wedd, mae'r gosodiad hwn yn ymddangos yn rhesymol, ond gan mai dim ond oddeutu chwarter o ysgolion sy'n rhai cyfrwng Cymraeg, buddsoddiad yn y Saesneg yw hwn yn bennaf, dyw hi ddim yn enghraifft o brif-ffrydio'r Gymraeg mewn cyllidebau prif-ffrwd. 

5.4. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn tynnu sylw at yr enghraifft hon yn adrodd cyfrolau ac yn codi cwestiwn: beth am y cyllidebau eraill fel iechyd a'r economi? Oes yma gyfaddefiad anuniongyrchol  bod canrannau hyd yn oed yn uwch yn ffafrio'r Saesneg mewn cyllidebau mawrion eraill? 

5.5. Mae'n amlwg bod tanfuddsoddi difrifol ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg mewn nifer o gyllidebau prif ffrwd y Llywodraeth - gan gynnwys addysg ac iechyd. Mae'r Llywodraeth yn honni mai 'diffyg galw' sy'n achosi hynny – credwn fod hynny'n amlygu meddylfryd hen-ffasiwn y gwasanaeth sifil, sy'n meddwl bod gwasanaeth Saesneg yn hanfodol ac yn ddiofyn, tra bod gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth atodol ac yn ddewisol. 

  • gyllideb sydd bron i £17 miliwn ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned, mae llai na phedair mil o bunnau wedi ei wario ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i ni gan Lywodraeth Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth am wariant yn flynyddoedd ariannol 2009/10 i 2011/12. Yn wir, mae nifer o brif gyllidebau’r Llywodraeth yn ariannu'r nesaf peth i ddim darpariaeth yn Gymraeg, gyda thros 99% o’r arian yn mynd ar ddarpariaeth Saesneg. 

  • Yn ôl ein gwybodaeth, dros yr un cyfnod o dair blyneddblith 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y Gymraegsef llai na phedwar prentisiaeth ym mhob mil. 

  • Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai 0.02% yn unig o’r un deg saith miliwn a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros dair blynedd, neu £2 am bob £10,000, a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng CymraegYn un o'r blynyddoedd, ni wariwyd yr un geiniog o'r gyllideb hon ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. 

  • Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 am bob £1000, o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. 

5.6. Mae'r ffigyrau'n ysgytwol ac yn anodd iawn i'w credu. Maent yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei thanseilio'n llwyr gan arian prif-lif Llywodraeth Cymru. 

6. Ein Hargymhellion 

6.1 Cyhoeddom ddogfen weledigaeth "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen" sy'n datgan argymhellion polisi ar gyfer tymor Llywodraeth nesaf Cymru. O ran buddsoddi yn y Gymraeg, rydym yn argymell dau bolisi penodol, sy'n bwysicach byth ystyried y toriadaarfaethedig yn gyllideb drafft: 

  • Dylai Llywodraeth Cymru osod allan rhaglen i gynyddu gwariant ar y Gymraeg i 1% o'r gyllideb, gyda disgwyliad hefyd i’r cyrff mae’n ei ariannu i glustnodi 1% ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg. 

  • Dylid comisiynu Comisiynydd y Gymraeg i gynnal asesiad annibynnol o effaith iaith gwariant prif-ffrwd Llywodraeth Cymru, a gweithredu ei argymhellion er mwyn sicrhau effaith iaith well gwariant presennol ar draws holl adrannau’r Llywodraeth a’r cyrff mae’n ei noddi 

 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Ionawr 2016