Hawliau i'r Gymraeg

Ydych chi erioed wedi teimlo bod gwasanaethau yn Gymraeg yn dameidiog ac anghyson? Ydych chi'n teimlo'n rhwystredig os ydych chi'n methu cael gwasanaeth Cymraeg yn y banc neu rhywle arall?

Ydych chi wedi teimlo y byddwch yn achosi trafferth wrth ofyn am wasanaeth yn Gymraeg? Neu ydych chi am sicrhau bod dysgwyr yn gallu datblygu eu sgiliau iaith trwy allu siarad Cymraeg ym mhob man?

Yn syml, ydych chi eisiau byw yn Gymraeg?

Os felly, dylech chi ymuno â’r grŵp hwn, sy'n ymwneud â hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg, statws y Gymraeg a defnydd cyrff o'r iaith.

Os hoffech gymryd rhan yng ngwaith y grŵp neu rannu profiadau tebyg cysylltwch gyda ni ar post@cymdeithas.cymru

Y Gymraeg yn y Gweithle

Mae'n anghyfreithlon i atal pobl rhag siarad â'i gilydd

Ers 2011, mae gan bobl yng Nghymru ryddid cyfreithiol i siarad Cymraeg gyda'i gilydd - er enghraifft mewn siop , tafarn neu yn y gwaith - ac i gyfathrebu yn Gymraeg - mewn llythyr ac e-bost.
Os wyt ti'n defnyddio'r Gymraeg gyda rhywun arall yng Nghymru, mewn sgwrs neu'n ysgrifenedig , a bod y person neu'r bobl eraill hefyd yn dymuno i'r drafodaeth ddigwydd yn Gymraeg, yna dylai fod rhyddid gyda ti i barhau i ddefnyddio'r Gymraeg heb ymyrraeth.

Os yw rhywun yn dweud na ddylet ti ddefnyddio'r Gymraeg, neu'n dweud y byddi di'n dioddef neu'n achosi anfantais am ddefnyddio'r Gymraeg, yna mae'n bosibl eu bod nhw'n ymyrryd â'th ryddid.

Felly, yn dy fywyd bob dydd, mae hawl gyfreithiol gyda ti i siarad Cymraeg gyda phobl eraill.
 
Wrth weithio mae hawl gyda ti i:

  • siarad Cymraeg gydag aelodau eraill o staff a chwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg
  • siarad Cymraeg mewn mannau cyhoeddus ac yn yr ardaloedd i staff yn dy le gwaith
  • siarad Cymraeg wrth i ti weithio ac yn ystod egwyl .

Os yw rhywun yn trio atal yr hawliau hyn gelli di:

  • siarad â chynrychiolydd dy undeb , dy reolwr llinell neu reolwr y gweithle
  • cysylltu â Chymdeithas yr laith: 01970 624501 neu post@cymdeithas.cymru
  • gwneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg, sy'n gallu cychwyn ymchwiliad swyddogol: post@comisiynyddygymraeg.cymru neu comisiynyddygymraeg.cymru

 Mae mwy o wybodaeth ar y daflen hon sydd hefyd ar gael yn Saesneg yma

 

Oes gennych chi gwyn am ddiffyg gwasanaeth yn y Gymraeg?