Angen i Brif Weinidog nesaf Cymru ddatganoli’r gwasanaeth sifil o fewn Cymru

Mewn galwad Dydd Gŵyl Dewi, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgeisydd buddugol ras arweinyddol Llafur Cymru, a Phrif Weinidog nesaf Cymru, i flaenoriaethu datganoli swyddi gweinyddiaeth sifil o fewn Cymru yn ystod ei lywyddiaeth.

Yn ôl ffigyrau mae Cymdeithas yr Iaith wedi eu derbyn gan y Llywodraeth, dim ond lleiafrif fechan – llai na’r cyfartaledd cenedlaethol – o uwch weision sifil sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r mudiad wedi cwestiynu sut gall y Gymraeg fyth fod yn fater canolog i bolisi’r Llywodraeth oni bai bod y sefydliad ei hun yn adlewyrchu sefyllfa’r Gymraeg.

Mae Jeremy Miles eisoes wedi crybwyll y syniad. Yn ei faniffesto ar gyfer ras arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae’n nodi “datganoli pwerau i bob rhan o Gymru a sicrhau bod y Cabinet yn treulio rhagor o amser y tu allan i Fae Caerdydd” fel un o’i amcanion. Mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus bod y ddau ymgeisydd yn blaenoriaethu datganoli swyddi ar bob lefel o’r gwasanaeth sifil, gan gynnwys y rheiny sy’n creu polisi.

Wrth gyfeirio at y protestiadau diweddar gan ffermwyr dros Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’r mudiad yn dadlau bod datganoli swyddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o gefndiroedd ymysg gweision sifil, dealltwriaeth o’r materion dan sylw, a sicrhau swyddi yn ardaloedd gwledig Cymru.

Dywedodd Cai Philips o Gymdeithas yr Iaith:

“Mae uwch weision sifil yn chwarae rôl ganolog wrth lunio polisïau ac argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Y perygl gyda’r fath ganoli yng Nghaerdydd yw bod diffyg cynrychiolaeth a dealltwriaeth yn eu plith o ardaloedd eraill o Gymru, gan gynnwys cadarnleoedd y Gymraeg, yn anochel. Dim ond 4.7% o uwch weision sifil Llywodraeth Cymru sy’n gallu ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg, er enghraifft, ac mae 50% o’r uwch wasanaeth sifil yn gosod eu sgiliau siarad ar lefel 0, sy’n golygu dim gallu o gwbl.

“Faint o’r swyddogion sy’n gweithio ar bolisi tai y Llywodraeth sydd wedi profi effaith yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg yn sgil y farchnad agored, a faint o swyddogion sy’n gweithio ar faterion fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deall y diwydiant amaeth? 

“Mae goblygiadau hyn yn glir, bydd y Gymraeg yn parhau yn ystyriaeth ymylol ym meysydd polisi’r Llywodraeth. Byddai symud swyddi o Gaerdydd yn gwella dealltwriaeth y llunwyr polisi, yn gallu cynyddu democratiaeth trwy roi llais i bobl yn ogystal â darparu swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Dyna pam ddylai fod yn flaenoriaeth i Vaughan Gething yn ogystal â Jeremy Miles”