Annog Ymgeiswyr Sir Gar i ddechrau o'r dechrau gyda'r CDU

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â phob un o'r 178 ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholiadau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Iau nesaf yn gofyn iddynt daflu Cynllun Datblygu Unedol y Sir i'r neilltu a dechrau eto.

Mae'r fersiwn bresennol o Gynllun Datblygu Unedol Sir Gâr yn cynnwys dyraniadau tir ar gyfer dros 12,000 o dai yn y sir heb fod ymchwil lleol yn dangos yr angen am y nifer hyn yng nghymunedau'r sir. Byddai adeiladu cymaint â hyn o dai o fewn cyfnod y CDU (hyd at 2016) yn bwydo mewnlifiad anferth ar raddfa fyddai'n gwbl ddinistriol i gymunedau Sir Gâr a'r Gymraeg. Geilw'r Gymdeithas yn hytrach ar y Cyngor i seilio'u CDU ar anghenion cymunedau lleol, gan ymchwilio'n barhaus i'r anghenion hynny a sicrhau bod datblygiadau'n ateb yr anghenion.Dywedodd Aled Davies, llefarydd y Gymdeithas ar Gynllunio yn Sir Gâr:"Dyma un o'r pethau cyntaf y dylai'r Cyngor Sir newydd ei daclo wedi i'r aelodau gael eu hethol. Mae'n un o'r cynlluniau gwallgof y bydd y Cyngor newydd yn ei etifeddu gan yr hen gyfundrefn a oedd yn taro ergyd ar ôl ergyd i'r gobaith o sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg Sir Gâr. Yn yr achos hwn, nid yw'n rhy hwyr i'r Cyngor newydd wneud eu marc. Mae ymchwiliad cyhoeddus wrthi'n ystyried y Cynllun ac nid yw'r Cyngor wedi ei fabwysiadu'n derfynol, felly mae rhwydd hynt iddynt ei dynnu'n ôl a dechrau eto."Ychwanegodd Aled Davies:"Rydyn ni wedi cysylltu â phob ymgeisydd fel y bydd pob aelod o'r Cyngor newydd yn ymwybodol o'r mater hwn cyn i ni lawnsio'n hymgyrch i gael y Cyngor Sir newydd i ddechrau eto ar y Cynllun Datblygu Unedol pan fyddant yn eu lle."Stori y Carmarthen Journal