Bil Cynllunio: Angen Bil Eiddo i ddelio â’r stoc tai presennol

Bydd ymgyrchwyr yn dechrau ymgyrch dros Fil Eiddo er mwyn delio â'r ffordd y mae'r stoc tai presennol yn effeithio ar y Gymraeg, wedi i ddeddfwriaeth cynllunio gael ei gymeradwyo’n derfynol yn y Senedd heddiw.  

Yn ystod y trafodaethau ar y Bil, cefnogodd y Gweinidog Cynllunio welliant a fydd yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol o fewn y system gynllunio, gan roi grym statudol i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith iaith. Bydd rhaid hefyd i'r gyfundrefn hybu datblygu cynaliadwy a bydd yn cynnwys ystyriaeth o'r Gymraeg wrth i awdurdodau lunio cynlluniau datblygu tymor hir. 

Dywedodd Tamsin Davies, Cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n falch iawn bod y Gymraeg bellach yn ystyriaeth berthnasol yn y gyfundrefn gynllunio, ond mae'n peri siom nad yw'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion trawsbleidiol.  Wrth edrych ymlaen, os yw’r Gymraeg yn mynd i ffynnu mae angen ymwneud â defnydd o’r stoc tai presennol yn ogystal. Mae angen sefydlu cyfundrefn sy’n rhoi anghenion lleol yn gyntaf, yn hytrach nag elw. Mae gwir angen sefydlu’r hawl i rentu a mesurau i roi’r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai. Mae costau tai a rhentu yn rhai o’r ffactorau sy’n gyrru allfudo, sy’n mor niweidiol i’r Gymraeg. Dyna pam byddwn ni’n rhedeg ymgyrch dros Fil Eiddo dros y misoedd nesaf.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i holl bleidiau'r Cynulliad weithredu ar ein galwadau am ddeddfwriaeth a rheoliadau pellach yn y misoedd a blynyddoedd nesaf.”