Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith: ail-bwysleisio alwad am Addysg Gymraeg i Bawb

Mae Joseff Gnagbo wedi ei ethol yn Gadeirydd cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith yn ein Cyfarfod Cyffredinol yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, 7 Hydref).

Mae Joseff, sydd â phrofiad fel Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith, wedi bod yn weithgar gyda’r mudiad a Chell Caerdydd y Gymdeithas ers sawl blwyddyn.

Bu’n rhaid iddo adael Côte d'Ivoire (Arfordir Ifori), ei wlad frodorol, fel ffoadur gwleidyddol oherwydd ei wrthwynebiad i lywodraeth newydd yn dilyn coup d’état. Ers ymgartrefu yng Nghymru, mae Joseff wedi dysgu Cymraeg a bellach yn darparu gwersi Cymraeg i geiswyr lloches ac yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion. Mae hefyd wedi siarad yn gyhoeddus am bwysigrwydd Cymru fel Cenedl Noddfa, a’r angen i ddarparu gwersi Cymraeg ar gyfer ffoaduriaid.
 
Ers symud i Gymru, mae Joseff wedi cofleidio’r Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad pwysig i adferiad yr iaith yng Nghaerdydd ac yn ehangach.
Wrth annerch y cyfarfod dywedodd ei fod yn teimlo’n rhan o deulu’r Gymraeg a theulu’r Gymdeithas a’i fod yn edrych ymlaen at arwain fel rhan o dîm gweithgar a phrofiadol.

Meddai Joseff ar ôl cael ei ethol yn gadeirydd cenedlaethol: “Mae gwaith y Gymdeithas, o’r ymgyrch dros ein cymunedau i’r ymgyrch dros ddatganoli pwerau darlledu, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddyfodol y Gymraeg. Ymunwch â’r Gymdeithas i sicrhau dyfodol gwell i’r Gymraeg.”

“Fel rhywun sy’n dysgu Cymraeg i bobl yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, rwy’n teimlo’n gryf y dylai pawb o bob cefndir gael mynediad at y Gymraeg. Mae’r Gymdeithas yn cynnig ateb pwysig yn hynny o beth yn ei hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb. Yn dilyn y papur gwyn diweddar, mae’n hanfodol felly bod y Llywodraeth yn mynd ati i gryfhau’r Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig gyda tharged o addysg Gymraeg i bawb, er mwyn sicrhau yn y dyfodol y bydd pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg.”

Mae mwy o luniau o'r Cyfarfod Cyffredinol i'w gweld yma